Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion O Dŷ i Gartref: Cynllun Talebau Newydd yn Cynnig Help Llaw

O Dŷ i Gartref: Cynllun Talebau Newydd yn Cynnig Help Llaw


Summary (optional)
start content

O Dŷ i Gartref: Cynllun Talebau Newydd yn Cynnig Help Llaw

Croeso Adref Welcome Home

Mae amrywiaeth eang o nwyddau fforddiadwy o safon ar gael i’r cartref yn y siopau Dewis Ailddefnyddio

Mae cynllun newydd wedi’i lansio yng Nghonwy sydd â’r nod o helpu pobl i ymgartrefu yn eu cartrefi newydd. Bydd menter “Croeso Adref” yn darparu taleb i breswylwyr sy’n symud ymlaen o fod yn ddigartref er mwyn prynu eitemau i’r cartref.

Gellir defnyddio’r talebau yn siopau Dewis Ailddefnyddio Bryson Recycling yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre a’r Rhyl, lle mae amrywiaeth eang o nwyddau fforddiadwy, ail-law o safon ar gael. O hanfodion ymarferol i’r gegin i eitemau i addurno a gwneud y cartref yn gartrefol, mae’r cynllun wedi’i greu er mwyn helpu i droi tŷ yn gartref.

Mae Bryson Recycling, menter gymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau rheoli gwastraff ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn gweithredu dwy ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref yng Nghonwy – ym Mochdre ac Abergele. Caiff eitemau y mae modd eu hailddefnyddio sy’n cyrraedd y canolfannau eu hachub cyn mynd yn wastraff. Yna cânt eu cynnig am bris da yn eu siopau Dewis Ailddefnyddio, gan helpu i leihau gwastraff wrth greu incwm ar gyfer mentrau cymunedol ac elusennol. Mae Bryson wedi cyfrannu gwerth £5,000 o dalebau i’w rhannu gan y Cyngor.

Dywedodd Gareth Walsh, Pennaeth Gweithrediadau Rhanbarthol yn Bryson Recycling:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu’r cynllun Croeso Adref. Pan fyddwch chi’n Dewis Ailddefnyddio gyda ni, rydych chi’n ein helpu i wneud gwahaniaeth yn y cymunedau lleol yr ydym ni’n gweithredu ynddynt. Trwy roi ail gyfle i eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gallwn gefnogi preswylwyr ar adeg bwysig wrth leihau gwastraff a chreu cymdeithas fwy cynaliadwy.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae symud i gartref newydd ar ôl bod yn ddigartref yn garreg filltir sylweddol, ond gall fod yn gyfnod heriol yn ariannol. Mae cynllun Croeso Adref yn darparu cefnogaeth ymarferol i helpu preswylwyr i ymgartrefu gydag urddas a chysur. Rydym wrth ein boddau o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bryson Recycling i ddarparu cynllun sy’n cefnogi pobl ac sy’n hybu ailddefnyddio a chynaliadwyedd hefyd.”

Dywedodd Richard Bartram, Rheolwr Partneriaeth Tai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae’n gyffrous cydweithio â’n cydweithwyr yn adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau a Bryson Recycling ar gynllun mor bwysig a boddhaus.

“I nifer o aelwydydd, mae profi digartrefedd yn gyfnod hynod o anodd, ac yn fwy felly i deuluoedd â phlant. Pan fyddwn ni’n cefnogi aelwyd i ddod allan o ddigartrefedd, mae’n gyfnod allweddol, felly mae’r cynllun hwn yn gadael i ni eu helpu i droi eu tŷ newydd yn gartref newydd.

“Dylai digartrefedd fod yn brin, yn fyr ac ni ddylai ddigwydd eto, ac mae cynlluniau ar y cyd fel hwn yn mynd yn bell tuag at gyflawni hyn yng Nghonwy.”

Mae amrywiaeth eang o nwyddau fforddiadwy o safon ar gael i’r cartref yn y siopau Dewis Ailddefnyddio, gan gynnwys eitemau hanfodol fel offer cegin, teganau ail-law o ansawdd da i blant o bob oed, ac eitemau hardd fel drychau a lluniau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio:

“Mae’r fenter hon gan Bryson Recycling yn wych a dylid ei chroesawu. Bydd yn helpu pobl sydd yn symud neu sydd wedi symud i gartref newydd ar ôl bod yn ddigartref. Mae heriau a chostau cartref newydd yn cael eu hanghofio’n aml, ac mae’r fenter hon yn helpu i ddarparu cefnogaeth a chymorth gwerthfawr.”

Os ydych chi’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â Thîm Datrysiadau Tai Conwy a fydd yn gofyn rhywfaint o gwestiynau i chi ac asesu eich anghenion.

Gall fod yn ddefnyddiol bod â ffrind, aelod o’r teulu, eiriolwr neu weithiwr cefnogi gyda chi pan fyddwn ni’n asesu eich anghenion. Gallan nhw eich helpu i gofio’r wybodaeth yn ystod y cyfarfod. Os ydych chi am gael cymorth i ddod o hyd i eiriolwr neu weithiwr cefnogi, rhowch wybod i ni.

Os oes angen help arnoch, cysylltwch â’r Tîm Datrysiadau Tai ar 0300 456 9545 neu galwch heibio swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn rhwng 9:30am a 4pm, ddydd Llun i ddydd Gwener. Tu Allan i Oriau Arferol, ffoniwch 0300 123 6688.

I gael rhagor o wybodaeth am siopau Dewis Ailddefnyddio a’r gwasanaethau y mae Bryson Recycling yn eu darparu, ewch i brysonrecycling.org.

Wedi ei bostio ar 23/03/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content