Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd 2026

Safon y Ddraig Werdd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cadw ardystiad Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am y deuddegfed flwyddyn yn olynol.
Mae Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn unigryw i Gymru ac wedi’i dylunio i hyrwyddo rheolaeth amgylcheddol dda ac i helpu sefydliadau reoli eu gweithgareddau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.
Mae cadw’r achrediad yn dangos bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’i gydnabod yn genedlaethol am eu hymrwymiad i ofalu am yr amgylchedd a pharhau i reoli eu heffaith ar yr amgylchedd yn effeithiol.
Yn ystod yr asesiad, canmolwyd y Cyngor am eu dealltwriaeth gref o ofynion cyfreithiol amgylcheddol ac am gysylltu eu Cynllun Corfforaethol, cynlluniau gwasanaeth a’u rhaglen sero net. Mae hyn yn dangos bod rheolaeth amgylcheddol wedi’i chynnwys yn gadarn yn strategaeth fusnes y Cyngor. Amlygodd aseswyr frwdfrydedd y staff a’u hymrwymiad i leihau effaith amgylcheddol gweithgareddau’r Cyngor.
Meddai Rhun ap Gareth, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Ychydig iawn o sefydliadau o faint a chymhlethdod Conwy sydd wedi llwyddo i gael achrediad Lefel 5 ar draws eu busnes cyfan, ac rydym yn falch o fod wedi cadw’r wobr hon.
“Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i welliant amgylcheddol a’n huchelgais i gyflawni sero net erbyn 2030, sy’n ganolbwynt allweddol i’n Cynllun Corfforaethol 2022–2027.
“Mae’r safon yn parhau i gynnig buddion go iawn i’n sefydliad, o gynyddu effeithlonrwydd ynni i leihau allyriadau carbon a chryfhau perfformiad amgylcheddol.
“Mae’r cyflawniad hwn yn dangos sut ydym ni’n integreiddio arfer amgylcheddol da i mewn i waith bob dydd hefyd er mwyn helpu i ddiogelu amgylchedd naturiol Conwy rŵan ac ar gyfer y dyfodol.”
Mae yna bum lefel o fewn Safon y Ddraig Werdd. Mae pob lefel yn cynnwys elfennau allweddol ar gynllunio, gweithredu, gwirio cynnydd ac adolygu cyflawniadau er mwyn sicrhau gwelliant amgylcheddol parhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am Safon y Ddraig Werdd, ewch i: Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd - Groundwork
Wedi ei bostio ar 01/04/2026