Dweud eich Dweud - Ymgynghoriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar reoli cŵn mewn mannau cyhoeddus.
Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn presennol ar waith tan fis Hydref 2026, pan ddaw’r Gorchymyn drafft newydd arfaethedig i rym.
Mae’r Gorchymyn presennol yn cynnwys:
- Ardaloedd Gwahardd Cŵn (e.e. traethau, caeau chwarae)
- Baw Cŵn a dull i’w godi
- Cŵn ar Dennyn
- Cŵn ar Dennyn trwy gyfarwyddyd swyddog awdurdodedig
Yn rhan o’i adolygiad o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol, mae’r Cyngor yn ystyried tri newid arfaethedig. Y rhain yw creu ardaloedd penodol i ymarfer cŵn ar Faes Hamdden Ffordd Maesdu a Maes Hamdden yr Oval yn Llandudno, gwahardd cŵn yn barhaol o Faes Chwaraeon a Hamdden Betws yn Rhos, a dynodi rhan o’r traeth sych newydd rhwng Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos, sy’n wynebu Promenâd Cayley, fel parth gwahardd cŵn yn barhaol.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 11 Medi ac mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gyflwyno eu barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn am y tair blynedd nesaf, gan gynnwys y tri ychwanegiad newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio, “Mae cŵn yn baeddu a pherchnogion cŵn anghyfrifol yn broblemau y mae Cynghorwyr yn clywed amdanynt yn rheolaidd gan breswylwyr. Bwriad Gorchmynion Rheoli Cŵn yw cael cydbwysedd teg, gan roi rhyddid i berchnogion cŵn fwynhau mannau cyhoeddus gyda’u hanifeiliaid anwes, gan sicrhau y gall pawb ddefnyddio’r lleoedd hynny yn ddiogel ac yn gyfforddus. Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond nod y mesurau hyn yw mynd i’r afael â’r nifer bach sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu, crwydro neu beidio â bod dan reolaeth mewn mannau cyhoeddus. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a rhannu eu safbwyntiau.”
Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, y newidiadau arfaethedig, y mapiau a’r ffurflen ymateb ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor yn Adolygiad o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2023 - Ymgynghoriad Cyhoeddus - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os nad ydych chi ar-lein, mae copïau papur o’r ymgynghoriad a’r ffurflenni ymateb ar gael yn swyddfeydd Coed Pella, Bae Colwyn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 11 Medi 2026.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn yr hydref ar gyfer y penderfyniad terfynol.
Wedi ei bostio ar 17/08/2026