Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cŵn public consultation 2026

Adolygiad o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2023 - Ymgynghoriad Cyhoeddus


Summary (optional)
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ymestyn ac addasu'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023 er mwyn creu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2026. Bydd eich adborth yn helpu i lunio mesurau sy'n hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ac yn cefnogi mannau cyhoeddus diogel a phleserus i bawb.
start content

Cefndir

Yng Nghonwy, er mwyn ymdrin â materion sy’n ymwneud â pherchnogaeth cŵn anghyfrifol, mae gennym Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2023 ar waith. Roedd y Gorchymyn yn destun ymgynghoriadau cyhoeddus, a ddangoswyd fod cefnogaeth gyhoeddus gref o blaid y cynigion, a gwnaed y Gorchymyn i’w wneud yn drosedd i:

  • Methu codi baw cŵn ar unwaith.
  • Methu cario dull priodol i gasglu baw ci.
  • Caniatáu i gi fynd ar dir ble mae cŵn wedi eu heithrio drwy’r flwyddyn; a
  • Caniatáu i gi fynd ar dir ble mae cŵn wedi eu heithrio’n dymhorol.
  • Peidio cadw ci ar dennyn mewn ardal ddynodedig.
  • Peidio rhoi a chadw ci ar dennyn pan fyddant yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.


Gellir cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig (dirwy) o £100 i berchnogion os byddant yn gwneud unrhyw un o’r rhain.

Mae cyflwyno’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus wedi helpu i:

  • greu mannau awyr agored mwy diogel a chroesawgar i berchnogion cŵn a phobl heb gŵn
  • mynd i’r afael â phroblemau baw cŵn

Beth rydym yn ei gynnig nawr

Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae baw cŵn a materion eraill cysylltiedig â chŵn yn parhau i fod yn achos pryder allweddol i gymunedau ledled y sir. O ganlyniad, rydym yn cynnig ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2023 am 3 blynedd, er mwyn creu Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2026, fel y gallwn barhau i sicrhau ac annog perchnogaeth cŵn cyfrifol yng Nghonwy, a chefnogi gofodau cyhoeddus diogel, glân, llawn mwynhad i bob cymuned, mewn modd cyfrannol ac effeithiol. Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn dod i ben ym mis Hydref 2026. Os na fydd y Gorchymyn yn cael ei ymestyn, bydd yn dod i ben, ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau gorfodi cyfreithiol ar gŵn yn Sir Conwy.

Rydym yn ystyried ei bod yn rhesymol tybio y byddai unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â chŵn a’u rheolaeth mewn ardaloedd cyfyngedig yn digwydd eto a/neu o bosibl yn cynyddu ac/neu’n fwy difrifol pe na fyddai’r Gorchymyn yn cael ei ymestyn.

Felly hoffwn gasglu eich barn ar y canlynol:

Do you support the extension of the current controls

  • Methu codi baw cŵn ar unwaith.
  • Methu cario dull priodol i gasglu baw ci.
  • Caniatáu i gi fynd ar dir ble mae cŵn wedi eu heithrio’n dymhorol.
  • Peidio cadw ci ar dennyn mewn ardal ddynodedig.
  • Peidio rhoi a chadw ci ar dennyn pan fyddant yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.


Yn ogystal â hyn, mae nifer o geisiadau yn gofyn bod amrywiadau yn cael eu hychwanegu i’r rheolyddion presennol wedi cael eu gwneud.

Ydych hi’n cefnogi amrywiad i’r rheolyddion presennol i gynnwys

  • Parth eithrio cŵn ar ardal o’r traeth sy’n wynebu Promenâd Cayley, Llandrillo-yn-Rhos.
  • Ardal benodol i ymarfer cŵn yn yr Oval, Llandudno
  • Ardal benodol i ymarfer cŵn ar Faes Hamdden Ffordd Maesdu, Llandudno
  • Parth eithrio cŵn ar faes Chwaraeon a Hamdden Betws-yn-Rhos, Betws-yn-Rhos

Dweud eich dweud

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal rhwng 14 Awst 2026 a 11 Medi 2026 a gellir cael mynediad ato drwy ffurflen ar-len

Cyfeiriad ar gyfer copïau papur

Coed Pella,
Ffordd Conwy,
Bae Colwyn,
LL29 0GG

Y camau nesaf

Bydd ymatebion yn cael eu hystyried ac adroddir ar ganfyddiadau i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet Cyngor gyda phenderfyniad i gadarnhau amodau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus 2026. Os yw’n cael ei gymeradwyo, bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus estynedig, gan gynnwys unrhyw newidiadau, yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach yn 2026. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan, tudalennau’r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â’n byrddau gwybodaeth digidol, ac yn lleol ledled y sir lle mae amrywiadau i’r rheolyddion cŵn wedi digwydd.

Gweler y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2023

Gweler y Gorchymyn Gwarchod Arfaethedig Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cwn 2026

end content