Dweud eich dweud am ddyfodol Gerddi'r Frenhines ym Mae Colwyn

Gerddi’r Frenhines
Mae Gerddi’r Frenhines ym Mae Colwyn yn un o nifer o barciau ffurfiol yng Nghonwy a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn datblygu prosiect blaenllaw i ddangos sut y gellir addasu parciau Fictoraidd hanesyddol i fodloni heriau’r dyfodol, gan gadw eu gwerth o ran treftadaeth ar yr un pryd.
Digwyddiadau galw heibio:
Dydd Gwener 6 Tachwedd, 9:30am tan 1pm: Gerddi'r Frenhines, Bae Colwyn
Dydd Gwener 6 Tachwedd, 2pm tan 4:30pm: Llyfrgell Bae Colwyn, Woodland Road West, Bae Colwyn, LL29 7DH
Dydd Sadwrn 7 Tachwedd, 9:30am tan 1pm: Canolfan Siopa Bay View, Sea View Road, Bae Colwyn, LL29 8DG
Fel rhan o’r prosiect, hoffai Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ddod i ddeall sut mae pobl leol yn defnyddio’r gerddi, a beth yr hoffen nhw ei weld yno yn y dyfodol. Bydd yr adborth yn helpu llunio’r cynigion ar gyfer y cynlluniau gwella.
Bydd y cynlluniau’n cael eu rhannu’n gyhoeddus a chynhelir ymgynghoriad arnyn nhw i wneud yn siŵr bod yr uwchgynllun terfynol yn adlewyrchu dymuniadau’r gymuned leol, yn ogystal ag yn darparu gwelliannau bioamrywiaeth a chefnogi rheolaeth hirdymor gynaliadwy.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 4 Tachwedd a 2 Rhagfyr.
Mwy o wybodaeth: https://bit.ly/4AcpBu8
Wedi ei bostio ar 04/11/2026