Helpu i amddiffyn Sir Conwy yr haf hwn

Doeth i Danau Gwyllt
Mae Aelod Cabinet yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i ddilyn cyngor y Gwasanaeth Tân wrth i’r risg o danau gwyllt barhau’n uchel.
Gyda’r rhagolygon am dymereddau uchel am beth amser eto, heb unrhyw law sylweddol i ddod yn fuan chwaith, gofynnir i breswylwyr ac ymwelwyr gymryd gofal pan maen nhw allan, a helpu i amddiffyn ein holl fannau agored, yn cynnwys parciau, gerddi, traethau a gwarchodfeydd natur.
Meddai’r Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd, "Mae’r tân gwyllt yng Nghonwy wedi dangos pa mor ddifrifol y gall tân gwyllt fod a pha mor gyflym y gall ledaenu. Buaswn yn annog pawb i ddilyn cyngor gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chwarae eu rhan yn helpu i atal tanau gwyllt ar hyd a lled y sir. Trwy gymryd rhagofalon syml, gallwn helpu i amddiffyn ein cymuned, ein cefn gwlad a’r gwasanaethu brys yn ystod y cyfnod yma o dywydd poeth a sych.”
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi apelio ar bobl i gymryd gofal ychwanegol a lleihau’r risg o dân yn ein cymunedau
Dywedodd Jody McEachern, Pennaeth Atal, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae ein Diffoddwyr Tân wedi gweithio'n ddiflino i ymateb i'r digwyddiadau heriol hyn - ac mae cefnogaeth ein cymunedau a'n hasiantaethau partner wedi bod yn amhrisiadwy.
"Hoffwn ailadrodd fy niolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad, a'n diffoddwyr tân, staff yr Ystafell Reoli, asiantaethau partner am bopeth maen nhw wedi'i wneud.
"Fy apêl nawr yw i'r cyhoedd i helpu ein diffoddwyr tân trwy atal y tanau hyn rhag torri allan. Gyda'r amodau tywydd poeth a sych presennol, gall hyd yn oed gwreichionen fach ddatblygu'n gyflym i dân sy'n lledaenu'n gyflym. Gall tanau glaswellt ddechrau o fewn eiliadau.
"Gall barbeciw sydd ddim yn cael ei defnyddio'n gyfrifol ddod yn berygl tân yn hawdd - os ydych chi allan o gwmpas, gadewch y barbeciw gartref a phacio picnic yn lle hynny. Mae pyllau tân a thanau agored yn peri risg tân – byddem yn gofyn i bobl osgoi'r rhain, ac ymatal rhag ymgymryd ag unrhyw losgi yn ystod yr amodau poeth presennol.
"Trwy aros yn wyliadwrus, gwaredu sigaréts yn ddiogel, a defnyddio barbeciw mewn lleoliadau priodol yn unig, gallwch chwarae rhan bwysig wrth atal tanau y gellir eu hosgoi ac amddiffyn y rhai o'ch cwmpas."
Cofiwch... Cadwch draw o ardaloedd tanau gwyllt.
Mwy o wybodaeth:
Cadw’n ddiogel yn yr haul: Apêl i gadw'n ddiogel yn yr haul - Newyddion - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Doeth i Danau Gwyllt: Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn #DoethiDanauGwyllt y gwanwyn a'r haf hwn - Newyddion - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Cadw traethau’n ddiogel: Helpwch ni i gadw ein traethau'n ddiogel a glân - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 17/07/2026