Helpwch i siapio sut mae Sir Conwy yn symud

Teithio Llesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac WalkWheelCycle Trust yn gofyn i breswylwyr Conwy am eu barn ar lwybrau teithio llesol presennol a’r dyfodol o amgylch y sir.
Mae rhwydwaith teithio llesol Conwy yn annog cerdded, beicio a theithio ar olwynion fel ffordd o gwblhau siwrneiau lleol, ac yn hyrwyddo iechyd a lles trefi a phentrefi lleol.
Dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae’n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, beicio a theithio ar olwynion yn rheolaidd. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i Gynghorau yng Nghymru i hyrwyddo a datblygu rhwydwaith o lwybrau teithio llesol o fewn eu hardaloedd. Ers 2013, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi adeiladu isadeiledd newydd, wedi gwella llwybrau teithio llesol sydd eisoes yn bodoli, ac wedi darparu cyfleusterau newydd er budd cerddwyr, pobl sy’n teithio ar olwynion, a beicwyr.
Cymeradwywyd map teithio llesol cyfredol Conwy gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, a rŵan, mae’r Cyngor yn gofyn am farn ar lwybrau presennol a’r dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan ddydd Llun, 9 Tachwedd, 2026. Yna, caiff y map newydd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2026.
Mae modd i’r cyhoedd gyflwyno adborth ar-lein ar Rhowch eich Barn ar Gerdded, Defnyddio Cymhorthion Symudedd a Beicio yn Ardal Conwy! | Map Data Cymru neu’n bersonol mewn digwyddiadau galw heibio a fydd yn cael eu hysbysebu unwaith mae’r lleoliadau a’r dyddiadau wedi cael eu cadarnhau.
Wedi ei bostio ar 18/08/2026