Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Bydd traeth a maes parcio Bae Cinmel yn ailagor dros yr haf

Bydd traeth a maes parcio Bae Cinmel yn ailagor dros yr haf


Summary (optional)
start content

Bydd traeth a maes parcio Bae Cinmel yn ailagor dros yr haf

Kinmel Bay Coastal Defence Jul 2025 1

Amddiffynfeydd rhag Llifogydd Bae Cinmel

Bydd traeth Bae Cinmel a maes parcio St Asaph Avenue yn ailagor dros yr haf

Bydd y gwaith ar gynllun amddiffynfeydd arfordirol Bae Cinmel yn cael ei oedi dros yr haf er mwyn caniatáu mynediad llawn i’r traeth a’r maes parcio.

Yn ystod y gwaith hyd yn hyn:

  • Mae 38,500 tunnell o greigiau o chwareli Gogledd Cymru wedi’u gosod fel creigiau amddiffyn i ddiweddaru’r amddiffynfeydd arfordirol
  • Mae 95% o’r morglawdd presennol wedi cael ei godi gyda choncrid cyfnerthedig ar hyd y 2 gilomedr o’r promenâd
  • Mae tua 90% o’r wal gynnal o greigiau ar yr ochr orllewinol o flaen Maes Carafannau Golden Sands wedi cael ei chwblhau
  • Mae tua 12% o’r wal gynnal o greigiau ar yr ochr ddwyreiniol o flaen Maes Carafannau Sunnyvale wedi cael ei chwblhau
  • Mae 4 set o risiau newydd dros y morglawdd wedi cael eu cwblhau
  • Mae 2 set o risiau gyda rampiau hygyrch newydd wedi cael eu cwblhau
  • Mae canllawiau yn y broses o gael eu gosod ar bob un o’r strwythurau newydd
  • Mae’r man parcio ar yr ochr orllewinol wedi cael ei gwblhau a bydd celfi stryd yn cael eu gosod yno

Mae’r gwaith yn cael ei gwblhau’n gynt na’r disgwyl felly ni ddylai oedi’r gwaith dros yr haf gael unrhyw effaith ar hyd y cynllun. Mae disgwyl i’r gwaith ar gynllun Amddiffynfeydd rhag Llifogydd Bae Cinmel gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2026 yn ôl y disgwyl. Bydd yr oedi’n gadael i’n contractwyr ganolbwyntio ar gael cyflenwad o greigiau o chwareli Gogledd Cymru cyn dychwelyd i’r safle yn yr hydref.

Wedi ei bostio ar 30/07/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content