Llandudno yn Edrych am Arweinydd Cymunedol i Gadeirio Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro Newydd

Rhaglen Balchder Bro
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â gwybodaeth neu gysylltiad lleol cryf â’r gymuned i fod yn Gadeirydd Annibynnol ac arwain wrth greu Bwrdd Cymdogaeth Llandudno newydd. Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i arwain y rhaglen wrth iddi gychwyn ar brosiect adfywio dan arweiniad y gymuned unwaith mewn cenhedlaeth.
O ganlyniad i hyd at £20 miliwn o fuddsoddiad hirdymor gan Lywodraeth y DU, bydd y Rhaglen Balchder Bro yn cefnogi trigolion a phartneriaid ar draws rhannau o ardal Tudno a Mostyn i siapio gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer Llandudno sy’n gryfach, yn fwy egnïol ac yn fwy gwydn.
Bydd y Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro newydd yn sicrhau bod pobl leol yn ganolog wrth wneud penderfyniadau, i helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn adlewyrchu blaenoriaethau’r gymuned. Bydd y Cadeirydd yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo lleisiau lleol, arwain trafodaethau strategol a meithrin llywodraethu cynhwysol gyda’r gymuned yn ganolog.
“Mae hwn yn gyfle prin i rywun sydd wir yn credu yn Llandudno a’i ddyfodol,” dywedodd y Cyng. Julie Fallon, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. “Rydym yn edrych am rywun sy’n gallu dod â phobl ynghyd, gwrando, a helpu i arwain gweledigaeth a rennir ar gyfer newid a arweinir gan y gymuned.”
Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn fwy na dim ond cyllid; mae’n ymwneud â grymuso pobl leol yn Tudno a Mostyn i yrru’r newidiadau maent eisiau eu gweld. Rwy’n falch o gael cefnogi i greu’r Bwrdd newydd hwn ac edrychaf ymlaen at weld Cadeirydd cryf, cydweithredol yn helpu i ddod â gweledigaeth y gymuned at gyfer Llandudno yn fyw.”
Mae’r swydd wirfoddol angen tua 8-10 awr bob mis (mwy o bosib yn y cyfnodau cynnar) ac ar agor i unigolion sydd â chysylltiad cryf ag ardal Tudno a Mostyn yn Llandudno. Croesawir profiad mewn arweinyddiaeth neu adfywio cymunedol, ond ymrwymiad, uniondeb a chred mewn grymuso lleol yw’r hyn sydd bwysicaf.
Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cais erbyn dydd Iau 16 Ebrill 2026.
I gael mwy o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, fynd i www.conwy.gov.uk/RhaglenBalchderBro i gael mwy o wybodaeth.
Wedi ei bostio ar 24/03/2026