Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Prif Faes Parcio Bodlondeb, Conwy

Prif Faes Parcio Bodlondeb, Conwy


Summary (optional)
start content

Prif Faes Parcio Bodlondeb, Conwy

Bodlondeb Car Park

Maes Parcio Bodlondeb

Cafodd swyddfeydd Bodlondeb a’r tiroedd ategol, gan gynnwys y prif faes parcio, eu prydlesu i Quidos Investments Limited ym mis Mai 2025.  Yn dilyn hynny, gofynnodd y perchnogion newydd i’r Cyngor ystyried rheoli’r prif faes parcio ar eu rhan ac ymestyn y ffioedd parcio i saith diwrnod yr wythnos. 

Er mwyn gwneud hyn, roedd angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Oddi ar y Stryd a hysbysiad cyhoeddus, cyhoeddwyd Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Mannau Parcio oddi ar y Stryd) 1997, Gorchymyn (Diwygio) (Rhif 2) 2015 - Maes Parcio Bodlondeb, Conwy, ym mis Tachwedd er mwyn gwahodd sylwadau gan y cyhoedd. 

Gallwn gadarnhau fod Quidos Investments Limited wedi penderfynu gwneud trefniadau eraill ers hynny.  Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rheoli’r prif faes parcio, felly ni fydd y Gorchymyn diwygiedig uchod yn cael ei weithredu. 

Fodd bynnag, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn parhau i reoli’r maes parcio ger y cae criced, a fydd yn parhau i fod yn faes parcio talu ac arddangos ar benwythnosau a gwyliau banc.

 

 

Wedi ei bostio ar 19/01/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content