Byddwch yn anturus yr haf hwn: Archwilio'r Tu Allan a helpu eich teulu i ffynnu

Archwilio'r Tu Allan!
Mae teuluoedd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i fanteisio ar yr awyr agored yr haf hwn er mwyn darganfod y cyfoeth o anturiaethau sydd ar gael wrth garreg eu drws am ddim neu am gost isel trwy'r fenter Archwilio'r Tu Allan!.
Yr haf hwn, gall teuluoedd wneud y mwyaf o'u gwyliau’r haf hwn drwy archwilio parciau, traethau, coedwigoedd, meysydd chwarae a mannau gwyrdd lleol ar draws y rhanbarth. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn hybu iechyd emosiynol, lles a datblygiad plant yn ogystal â'u diddanu.
Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod cysylltu â natur yn gallu gwella iechyd meddwl a lles. Mae chwarae yn yr awyr agored yn annog plant a phobl ifanc i fod yn actif, defnyddio eu dychymyg, datrys problemau, cymryd risgiau y gellir eu rheoli a meithrin hyder ac annibyniaeth. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd a chryfhau eu cysylltiad â'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Mae Archwilio'r Tu Allan! yn gyfeiriadur ar-lein sy'n helpu teuluoedd i ddarganfod lleoedd awyr agored i'w harchwilio, eu mwynhau a chwarae ynddyn nhw ledled Gogledd Cymru. Wedi'i ddatblygu gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Plant Gogledd Cymru mae'n cynnwys ystod eang o leoliadau i'w hymweld am ddim neu am gost isel, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i deuluoedd ddatgelu trysorau cudd, rhoi cynnig ar anturiaethau newydd a manteisio i'r eithaf ar wyliau'r haf gyda'i gilydd.
Gall teuluoedd ddefnyddio Archwilio'r Tu Allan! i ddod o hyd i:
- Meysydd chwarae a mannau chwarae antur
- Parciau a mannau gwyrdd
- Traethau a llwybrau cerdded arfordirol
- Llwybrau mewn coedwigoedd a safleoedd natur
- Mannau agored ar gyfer gemau i'r teulu a phicnic
- Trysorau cudd mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru
Mae pob antur awyr agored yn cynnig cyfle i blant ddatblygu sgiliau newydd, meithrin gwydnwch, magu hyder a chreu atgofion parhaol gyda theulu a ffrindiau.
Awgrymiadau Ardderchog ar gyfer Anturiaethau Awyr Agored yr Haf
- Gadewch i blant arwain y ffordd – Anogwch blant i ddewis ble i fynd a beth i'w archwilio er mwyn meithrin hyder, chwilfrydedd ac annibyniaeth.
- Dechreuwch yn agos at gartref – Gall parciau, traethau, coedwigoedd a llwybrau lleol fod yn anturiaethau cyffrous heb orfod teithio’n bell.
- Meddyliwch am heriau – Chwiliwch am fywyd gwyllt, casglwch ddail diddorol, adnabyddwch adar neu crëwch helfa drysor syml i gadw plant yn brysur.
- Cymerwch amser i gysylltu – Mae anturiaethau awyr agored yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer sgyrsiau i'r teulu i gyd oddi wrth sgriniau a phethau sy'n tynnu eich sylw bob dydd.
- Darganfyddwch rywle newydd – Mae ymweld â lleoedd anghyfarwydd yn helpu plant i ddysgu addasu, magu hyder a dealltwriaeth gryfach o'r byd o'u cwmpas.
- Triniwch Ogledd Cymru gyda pharch – Dilynwch y Cod Cefn Gwlad trwy fynd â sbwriel adref, parcio’n gyfrifol, parchu bywyd gwyllt a da byw, a chan adael dim olion o’ch ymweliad ar eich ôl. Yn ystod tywydd sych, dylech osgoi gweithgareddau a allai ddechrau tanau gwyllt a helpwch i amddiffyn amgylchedd naturiol Gogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae Archwilio'r Tu Allan! yn rhan o Fframwaith Iechyd Lles a Gwytnwch Emosiynol Gogledd Cymrusy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y rhanbarth drwy annog ffyrdd iach o fyw a chysylltiadau cadarnhaol â natur a chymunedau lleol.
Anogir teuluoedd i ddechrau cynllunio eu hantur awyr agored nesaf drwy ymweld â gwefan Archwilio'r Tu Allan! i ddarganfod yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ledled Gogledd Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r gwefannau isod:
Wedi ei bostio ar 03/08/2026