Dadorchuddio Cae Bob Tywydd Newydd yn Ysgol y Creuddyn

Cae Bob Tywydd yn Ysgol y Creuddyn
Mae gwaith wedi cael ei gwblhau ar Gae Gwair Artiffisial Bob Tywydd (AGP) a phafiliwn newid yn Ysgol y Creuddyn, gan ddarparu cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion a chymuned ehangach Bae Penrhyn.
Heddiw (11/09/26) agorodd Wasanaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy'r cyfleuster newydd yn ffurfiol.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Sefydliad Pêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru am eu cefnogaeth. Dyma fuddsoddiad i wella mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar gyfer Ysgol y Creuddyn a chymuned ehangach Bae Penrhyn.”
“Bydd y cae bob tywydd newydd yn sicrhau y gall disgyblion a chlybiau lleol fwynhau cyfleusterau dibynadwy, o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi iechyd, lles a chydlyniant cymunedol rŵan ac am nifer o flynyddoedd i ddod.”
Mae’r datblygiad werth £1.98 miliwn wedi cael ei ariannu trwy fenter Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, ynghyd â grantiau gan Sefydliad Pêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Gweinidog Cabinet Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Anna Brychan: “Mae ysgolion yn ganolog i’w cymunedau a bydd y pafiliwn a’r cae bob tywydd newydd yn creu gofod pwysig sy’n dod a phobl ynghyd tu hwnt i ddiwrnod yr ysgol, wrth gefnogi iechyd a lles. Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft wych o sut all ysgolion ddod yn ganolbwynt cymunedol sy’n elwa dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned leol.”
Dywedodd Aled Lewis, Cyfarwyddwr Sefydliad Pêl-droed Cymru: “Rydym yn falch bod y cyfleuster yn Ysgol y Creuddyn bellach ar agor a bydd yn darparu profiadau gwell i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o’r ffordd y gall cydweithio ddod a chymunedau ar draws Cymru yn agosach at y gêm.”
Mae’r datblygiad yn cynnwys Cae Gwair Artiffisial (AGP) maint llawn, wedi’i oleuo, gan ddarparu cyfleuster bob tywydd o ansawdd uchel ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol trwy gydol y flwyddyn.
Yn cyd-fynd â’r cae newydd mae pafiliwn modwlar modern, wedi’i ddylunio i gefnogi chwaraeon, swyddogion a’r gymuned ehangach. Mae’r pafiliwn yn cynnwys dwy ystafell newid o’r radd flaenaf gyda chawodydd a thoiledau, ardal newid ddynodedig ar gyfer swyddogion gemau a chyfleusterau newid a chawod hygyrch.
Mae defnydd cymunedol yn ganolog i’r datblygiad, gydag ystafell gymunedol hyblyg a chegin fach, toiled hygyrch gyda mynediad allanol ac ardal ddynodedig i wylwyr. Mae’r safle hefyd wedi elwa o dirlunio caled a meddal, gan greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb sy’n defnyddio’r cyfleuster.
Yn ystod oriau ysgol, bydd Ysgol y Creuddyn yn rheoli’r cae ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm ac allgyrsiol. Tu allan i oriau ysgol, bydd Ffit Conwy yn gyfrifol am archebion cymunedol a mynediad i’r cyhoedd ar gyfer y cae a’r pafiliwn.
Darparodd Alliance Leisure y prosiect ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Menter Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru: Ysgolion Bro (LLYW.CYMRU)
Sefydliad Pêl-droed Cymru Pwy Ydym Ni - Sefydliad Pêl-droed Cymru
Chwaraeon Cymru: Hafan | Chwaraeon Cymru
Wedi ei bostio ar 11/09/2026