Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Newydd ym Mae Colwyn

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Newydd ym Mae Colwyn


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Newydd ym Mae Colwyn

Safer Conwy logo

Conwy Diogelach

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, yn cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd ar gyfer Bae Colwyn. 

Bydd y Gorchymyn newydd yn para tair blynedd o ddiwedd mis Mawrth 2026 ymlaen.

Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Ein gobaith yw y bydd y Gorchymyn newydd hwn yn rhwystr effeithiol a hefyd yn galluogi Swyddogion yr Heddlu i ddelio’n gyflym â throseddwyr.”

Meddai’r Prif Arolygydd Rachel Hare o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’r Gorchymyn newydd yn rhoi’r pwerau angenrheidiol i ni gymryd camau cadarn i ddelio ag unigolion sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn rheolaidd.  Mae’n ein helpu i wneud yr ardal yn lle mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau. 

“Byddwn yn annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i ni am achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drwy ffonio 101 neu ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio ar y we.  Ar y cyd â’n partneriaid a’n cymunedau lleol, byddwn yn parhau i dargedu’r unigolion hynny sy’n achosi niwed ac yn amharu ar ein hardal.”

Cyflwynwyd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus blaenorol ym mis Mai 2022 dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, i fynd i’r afael â phroblemau fel yfed ar y stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc.  Bu mewn grym am dair blynedd a galluogodd Heddlu Gogledd Cymru i gymryd camau gorfodi pan oedd yr amodau’n cael eu torri yn yr ardal ddynodedig.

Yn dilyn adolygiad gyda Heddlu Gogledd Cymru, nid yw’r Gorchymyn newydd yn cynnwys y cymal sy’n ymwneud yn benodol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc yn sgil heriau gorfodi ac amwysedd, ac mae’r Gorchymyn bellach yn cynnwys ardal ehangach. 

Gwahoddwyd trigolion lleol, perchnogion busnes a Chynghorwyr i gyflwyno eu barn am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Bu’r cyfnod ymgynghori ar agor am chwe wythnos rhwng 26 Tachwedd 2025 a 7 Ionawr 2026.

Mae’r Gorchymyn a’r map i’w gweld ar lein yn:

 

Wedi ei bostio ar 26/03/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content