Ymgyrch Machinez

Cuddfan
Mae swyddogion Safonau Masnach, Trwyddedu a Theledu Cylch Caeedig Cyngor Conwy yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Rheoli’r Ffiniau fel rhan o ymgyrch ‘Machinez 2’ dan arweiniad Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU.
Archwiliwyd safleoedd ym Mae Colwyn, Llandudno a Phenmaenmawr fel rhan o'r ymgyrch hon a oedd yn targedu busnesau sy'n defnyddio llawer o arian parod.
O'r safleoedd a archwiliwyd, caeodd un safle trwyddedig yn wirfoddol, gyda safle arall wedi'i gau gan Swyddogion Safonau Masnach ar sail diogelwch y cyhoedd.
Aeth swyddogion yr Heddlu, Mewnfudo a Thân i’r afael â nifer o faterion eraill ac mae ymholiadau’n parhau.
Atafaelodd swyddogion Conwy dybaco, sigaréts a fêps peryglus, anghyfreithlon a ffug (gwerth tua £10 mil) o guddfannau a adeiladwyd at y diben.
Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Mae Swyddogion Safonau Masnach, Trwyddedu a Theledu Cylch Caeedig Conwy wedi ymrwymo i amddiffyn y cyhoedd rhag nwyddau peryglus, sicrhau diogelwch ein cymuned, a darparu amgylchedd masnachu teg i bob busnes ledled y Sir.”
I roi gwybod am drosedd, cysylltwch â Crimestoppers 0800 555111 Crimestoppers in Wales | Crimestoppers
Llun: Easy Shop, Llandudno - cuddfan fagnetig fawr y gellir cerdded i mewn iddi, gyda leinin o ffoil ac oergell (storfa oer) i atal y ci arogli tybaco.
Wedi ei bostio ar 11/11/2025