Caniatâd i ymgynghori

Ystafell gotiau ysgol
Mae Gwasanaeth Addysg Conwy’n ceisio caniatâd i ymgynghori ynghylch newid categori iaith Ysgol Babanod Llanfairfechan.
Bu’r ddarpariaeth Gymraeg i ddysgwyr yn Ysgol Babanod Llanfairfechan yn cynyddu’n raddol ers bron i ugain mlynedd bellach, ac ym mis Medi 2022 fe’i dynodwyd yn ysgol T2 (trosiannol at ddwy iaith).
Yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Conwy, mae’r ysgol yn barod bellach i symud ymlaen i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn llwyr.
Gofynnir i Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roi caniatâd i gynnal ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i newid categori iaith Ysgol Babanod Llanfairfechan i Gategori 3: Ysgol cyfrwng Cymraeg.
Cyflwynir y cais yr wythnos nesaf (22/09/26) gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau, a fydd wedyn yn gwneud argymhelliad a gyflwynir i’r Cabinet ar 6 Hydref.
Meddai’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Mae cynllunio ysgolion yn strategol yn ddyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n gyfrifol am sicrhau bod trefniadaeth ein hysgolion yn addas at y diben, yn ymateb i newidiadau demograffig, ac yn gallu darparu amgylcheddau dysgu sy’n ddiogel ac yn addas i’n plant a’n pobl ifanc.
“Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Conwy yn egluro ein huchelgeisiau a’n targedau i gynyddu nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydw i o blaid cynnal ymgynghoriad i gasglu barn budd-ddeiliaid a’r gymuned ynglŷn â’r cynnig pwysig hwn. Bydd eu safbwyntiau nhw’n ein helpu i gynllunio’r ffordd orau o fwrw ymlaen gyda’n gilydd.”
Dolen at Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Conwy: CSCA Conwy 2022-32
Os ceir sêl bendith y Pwyllgor a’r Cabinet, bwriedir cychwyn yr ymgynghoriad ddiwedd mis Hydref a dod ag adroddiad ynglŷn â’r ymatebion i gynghorwyr yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.
Dolen at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Sgiliau ddydd Mawrth, 22 Medi 2026, 2.00pm
Dolen at y Cabinet: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen cyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 6 Hydref 2026, 2.00pm
Wedi ei bostio ar 16/09/2026