Cam 2 y gwaith ar y llwybr o Lan Conwy i Gyffordd Llandudno ar y gweill

Cam 2 y gwaith ar y llwybr o Lan Conwy i Gyffordd Llandudno
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr newydd rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno.
Dechreuodd y gwaith ar y llwybr oddi ar y ffordd i bobl allu cerdded, beicio a theithio ar olwynion rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ym mis Mawrth 2025.
Bwriad y llwybr yw gwneud siwrneiau’n haws, mwy diogel a mwy hygyrch i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadair olwyn a phobl â phramiau a sgwteri symudedd.
Bydd y llwybr 2km gorffenedig, a ariannwyd yn bennaf gan Lywodraeth y DU, yn cynnwys llwybr cyd-ddefnyddio 3m o led, dwy bont newydd yn croesi rheilffordd Dyffryn Conwy ac Afon Ganol, a goleuadau sy’n ystyriol o’r amgylchedd i’w wneud yn addas i’w ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Gwneir y gwaith gan gwmni Jennings Building and Civil Engineering Ltd.
Yr oedd cam cyntaf y gwaith yn cynnwys gwella’r llwybr o bont reilffordd Conwy at faes parcio’r RSPB a dechrau’r llwybr newydd yn mynd heibio y tu draw i’r ganolfan ymwelwyr. Rhwng mis Mawrth a mis Medi, gwaith cyfyngedig yn unig a wnaed, a hynny draw oddi wrth fannau sensitif, er mwyn osgoi tarfu ar yr adar yn y warchodfa.
Ers mis Rhagfyr mae’r contractwyr wedi:
• Cwblhau’r llwybr 650m o bont reilffordd Conwy at ffordd fynediad yr RSPB
• Cloddio, graddoli ac adeiladu 1,200m yn fwy o’r llwybr at lefel is-sylfaen o ffordd fynediad yr RSPB at bont Afon Ganol
• Codi strwythur pont Afon Ganol i’w le
• Dechrau gwaith ar y ramp at y bont reilffordd.
Adeiledir y bont reilffordd oddi ar y safle, a bwriedir ei gosod yng ngwanwyn 2026.
I baratoi ar gyfer gosod y bont, bydd gwaith yng nghilfan ‘Green Seat’ yn dechrau ddydd Llun, 19 Ionawr. Bydd y gilfan ynghau tan fis Mai 2026.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n gweithio gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru ar y llwybr ymlaen o gilfan Green Seat i ganol Glan Conwy.
Mae’r prosiect i fod i gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd, “Mae’r gwaith yn dod yn ei flaen yn dda, yn unol â’r rhaglen ac o fewn y gyllideb. Mae hwn yn brosiect sylweddol yr ydym yn falch o fod yn gweithio arno gyda’r contractwyr lleol o Fae Colwyn, Jennings Building and Civil Engineering Ltd. Llongyfarchiadau i’n contractwyr yn ogystal â’n peirianwyr mewnol. Mae hwn wir yn brosiect i Gonwy gan Gonwy.”
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu, “Mae disgwyl mawr wedi bod am lwybr hygyrch rhwng Llansanffraid Glan Conwy a Chyffordd Llandudno.
“Mae preswylwyr Llansanffraid Glan Conwy yn edrych ymlaen at gwblhau’r llwybr – bydd yn galluogi beicwyr a cherddwyr o bob oedran a gallu i fwynhau teithio’n ddiogel ar hyd un o’r llwybrau sydd â’r golygfeydd mwyaf godidog yng ngogledd Cymru. Bydd y llwybr yn rhoi mynediad hawdd i breswylwyr i Gyffordd Llandudno, Conwy, Deganwy a Llandudno.”
Wedi ei bostio ar 19/12/2025