Craffu ar Borth Eirias

Porth Eirias
Bydd aelodau o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Conwy yn derbyn adroddiad yr wythnos nesaf am Borth Eirias, a adeiladwyd fel rhan o’r gwaith atal llifogydd ar y promenâd ym Mae Colwyn ac agorwyd yn 2013.
Gofynnodd y Cynghorwyr am y wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol Porth Eirias fel rhan o’u rôl i adolygu meysydd gwasanaeth penodol.
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar incwm, gwariant a’r sefyllfa gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn amlinellu’r dewisiadau ar gael ar gyfer newidiadau i’r dyfodol a pha gamau sydd eisoes yn cael eu cymryd.
Un pryder yw colled incwm o ofodau masnachol yn yr adeilad. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda thenantiaid newydd posibl ar gyfer dau o’r gofodau sydd ar gael.
Hefyd mae galw cynyddol am gyfleusterau addas gan grwpiau ac unigolion sy'n defnyddio'r traeth. Yn 2024 yn unig, cymerodd bron i 3,000 o bobl ifanc ran mewn gweithgareddau diogelwch dŵr a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mewn ymateb i’r galw cynyddol, cyflwynodd y Cyngor gais i Gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu’r cyfleusterau sydd ar gael i ddefnyddwyr y traeth.
Roedd y cais yn llwyddiannus, ac mae’r adroddiad yn amlinellu’r dewisiadau ar gyfer gwelliannau, yn destun cytundeb gan Lywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 19/09/2025