Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Amlygu perfformiad cadarnhaol llyfrgelloedd Sir Conwy

Amlygu perfformiad cadarnhaol llyfrgelloedd Sir Conwy


Summary (optional)
start content

Amlygu perfformiad cadarnhaol llyfrgelloedd Sir Conwy

Llanrwst Library

Llyfrgell

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Conwy yn ei gyfarfod nesaf, yn amlygu perfformiad cadarn Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth y Cyngor. 

Mae manylion ynghylch perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn Asesiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2024-25, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Caiff adroddiadau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru eu cyhoeddi bob blwyddyn. 

Mae Adroddiad 2024-2025 yn dangos bod Conwy yn bodloni pob un o’r 13 Hawl Craidd yn llawn. Yn ogystal, o'r pum Dangosydd Ansawdd sydd â thargedau, cyflawnodd y Gwasanaeth Llyfrgell bedwar yn llawn ac un yn rhannol.

Roedd adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn dangos cryfderau’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, gan gynnwys y cynnydd o ran niferoedd sy’n mynychu digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir mewn Llyfrgelloedd a’r effaith ar raglenni cymunedol llyfrgelloedd. Mae llyfrgelloedd Conwy yn darparu rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys grwpiau darllen ar y cyd a sesiynau ffrindiau darllen sy’n addas i bobl â dementia, yn ogystal â sesiynau sy’n canolbwyntio ar les i blant a theuluoedd. 

Meddai’r Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Llywodraethu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Hoffwn ddiolch i aelodau staff ein llyfrgelloedd am eu hymrwymiad i gyflawni’r safonau uchel hyn, a’u gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Mae’n braf iawn gweld y dystiolaeth bod ein llyfrgelloedd yn gallu gweithredu fel canolbwyntiau cymunedol, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, ymrwymiad allweddol o ran canlyniadau’r dinesydd yn ein Cynllun Corfforaethol.

“Rydym yn cydnabod bod yna heriau a phwysau ariannol parhaus, ond mae ein hymrwymiad i gynnal ein horiau agor a diogelu’r ddarpariaeth yn y rheng flaen yn dangos mor bwysig ydi ein llyfrgelloedd i ni ac mor fuddiol ydyn nhw i’n preswylwyr.”

Caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cabinet yn y cyfarfod ar 24 Chwefror Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen y Cabinet ddydd Mawrth, 24 Chwefror 2026, 2.00 pm https://modgovpub-cym.secure.conwy.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=171&MId=10794&Ver=4

 

Nodyn:

Mae’r Dangosyddion Ansawdd fel a ganlyn: 

Cefnogi Iechyd a Lles (Dangosydd Ansawdd 4 - wedi’i fodloni’n llawn)

Digwyddiadau / gweithgareddau i ddefnyddwyr â gofynion arbennig (Dangosydd Ansawdd 6 - wedi’i fodloni’n llawn)

Lleoliad mannau gwasanaeth (Dangosydd Ansawdd 7 - wedi’i fodloni’n llawn)  

Cymwysterau a lefelau staffio (Dangosydd Ansawdd 13 - wedi’i fodloni’n rhannol)

Oriau agor y pen (Dangosydd Ansawdd 16 – wedi’i fodloni’n llawn)

 

 

 

Wedi ei bostio ar 23/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content