Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llwyddiant Cronfa Effaith Balchder Bro

Llwyddiant Cronfa Effaith Balchder Bro


Summary (optional)
start content

Llwyddiant Cronfa Effaith Balchder Bro

Balchder Bro

Balchder Bro

Rydym yn falch o gyhoeddi bod prosiectau yng Nghonwy ar fin derbyn cyllid gan Gronfa Effaith Balchder Bro.

Cyflwynwyd cynigion gan sefydliadau cymunedol ac sydd eisiau cyflawni prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion lleol, a chan fusnesau sy'n dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gan gyfrannu at adfywio'r Stryd Fawr a chanol y dref.

Gyda bron i £1.5 miliwn wedi'i ddyrannu, mae'r prosiectau llwyddiannus yn canolbwyntio ar wella cyfleusterau ac adnewyddu adeiladau cymunedol, gan wella mannau cyhoeddus a mannau chwarae. 

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Rwy’n falch iawn y bydd y prosiectau hyn yn gallu cyflawni gwaith hanfodol o fewn ein cymunedau a chyda nhw, i wneud gwelliannau gweladwy i fannau cyhoeddus a chymunedol. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt i gyd.”

Dywedodd Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy: “Mae’r Gronfa Effaith Balchder Bro yn ymwneud â chefnogi’r prosiectau y mae pobl leol yn gwybod fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau, ac mae’n bleser gennyf weld trefi a phentrefi ar draws Bangor Aberconwy’n elwa o’r rownd ddiweddaraf o gyllid.

“O ymestyn canolfan gymunedol ym Mhenmaenmawr, i ailagor toiledau cyhoeddus yng Ngherrigydrudion, a gwella parciau chwarae a mannau gwyrdd ym Metws-yn-Rhos, mae’r rhain yn fuddsoddiadau ymarferol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Gill German AS Gogledd Clwyd: “Rwy’n falch iawn y bydd Cronfa Effaith Balchder Bro, a ddarperir gan Lywodraeth y DU i wneud gwelliannau gweladwy i’r stryd fawr ac i fannau o werth cymunedol, yn cael ei defnyddio i ariannu’r prosiectau cymunedol cyffrous hyn. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn cychwyn a gweld yr effaith y bydd yn ei gael ar hyd a lled Gogledd Clwyd.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiectau llwyddiannus a Chronfa Effaith Balchder Bro ar wefan y Cyngor yn: Cronfa Effaith Balchder Bro - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae’n rhaid cwblhau prosiectau a gaiff eu hariannu erbyn 31 Mawrth 2027.    

 

Cefndir:

Cronfa Effaith Balchder Bro:  Cafodd Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU ei chyhoeddi y llynedd, a bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ynghyd ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, yn derbyn £1.5 miliwn mewn cyllid cyfalaf dros ddwy flynedd. Bydd y gronfa yn rhedeg tan fis Mawrth 2027, a chaiff prosiectau eu dewis a’u darparu fesul cam.

Prosbectws: Pride in Place Impact Fund: prospectus - GOV.UK

Nod y cyllid yw darparu gwelliannau gweledol erbyn mis Mawrth 2027. Mae'r amcanion yn cynnwys:

  • Mannau Cymunedol - creu, adnewyddu neu ehangu cyfleusterau a galluogi sefydliadau cymunedol i wella asedau lleol gwerthfawr.
  • Mannau Cyhoeddus - gwella mannau gwyrdd, ardaloedd chwarae, mannau hamdden, dodrefn stryd neu (arwyddion) ganfod ffyrdd. 
  • Adfywio’r Stryd Fawr - gwella blaen siopau, dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chreu canol trefi bywiog.
  • Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn cynnig grantiau cyfalaf i brosiectau ar draws y sir. Mae’n rhaid i’r prosiectau gynnwys gwelliannau ffisegol sy’n gwneud gwahaniaeth parhaus - nid yw gwaith cynnal a chadw arferol a chostau rhedeg yn gymwys.

Yn gynharach eleni, gwahoddodd y Cyngor geisiadau gan:

  • Sefydliadau cymunedol (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned) i ddarparu prosiectau yn Sir Conwy lle mae tystiolaeth glir o’r angen yn lleol.
  • Busnesau mewn trefi blaenoriaeth sy’n cyflawni prosiectau a all gyfrannu tuag at adfywio’r Stryd Fawr a chanol tref.

Mae’r Gronfa Effaith yn ychwanegol at gyllid Rhaglen Balchder Bro a ddyfarnwyd i brosiectau yng nghymdogaeth Mostyn a Tudno yn Llandudno.

Wedi ei bostio ar 22/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content