Annog disgyblion i gofio eu pas bws er mwyn teithio ar gludiant ysgol a choleg

‘Dim pas, dim teithio’
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn atgoffa disgyblion a rhieni bod angen dangos pas bws ar gyfer pob taith ar gludiant ysgol neu goleg.
I wneud yn siŵr bod yna sedd ar gyfer pob disgybl sydd â hawl i deithio, a bod digon o le ar bob bws, bydd y polisi ‘dim pas, dim teithio’ yn cael ei orfodi o’r diwrnod cyntaf y mae’r disgyblion yn ôl yn yr ysgol ym mis Medi.
Eglurodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy:
“Mae ‘dim pas, dim teithio’ yn neges y byddwn yn atgoffa pawb ohoni ar ddechrau’r tymor.
“Mae’r system wedi bod ar waith ers rhai blynyddoedd, ac rydym wedi cysylltu ag ysgolion a rhieni, gan gynnwys y rhai fydd yn defnyddio’r bws ysgol am y tro cyntaf. Mae angen i ni wneud yn siŵr y gall pob plentyn cymwys deithio’n ddiogel yn eu sedd eu hunain gyda gwregys diogelwch.
“Mae hefyd yn hanfodol atgoffa disgyblion i ddal eu bws dynodedig. Os bydd dau fws yn gweithredu ar yr un daith, gallai’r disgyblion ystyried dal y bws ‘hwyrach’. Ond gallai hyn arwain at orlenwi’r bws, ac nid yw hyn yn dderbyniol. Mae yna god lliw ar y pasys bws sy’n dangos enw’r disgybl a rhif eu bws dynodedig yn glir.”
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am drefniadau cludiant eich plentyn, cysylltwch â Thîm Cludiant Teithwyr Conwy drwy anfon neges e-bost at cludiantteithwyr@conwy.gov.uk, neu ffonio 01492 577899.
Os yw eich plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant i’r ysgol ac yn symud ymlaen i’r flwyddyn ysgol nesaf yn yr un ysgol, byddwn yn diweddaru eich manylion yn awtomatig. Os nad yw eich cyfeiriad cartref wedi newid, byddwn yn parhau i wneud y trefniadau teithio angenrheidiol. Os yw eich plentyn wedi gorffen blwyddyn 11 ac yn dychwelyd i’r chweched dosbarth, rhaid i chi wneud cais arall am gludiant; ni fydd eich trefniadau blaenorol yn parhau’n awtomatig.
Os yw pas teithio eich plentyn wedi mynd ar goll neu wedi’i ddifrodi, mae’n rhaid i chi gael un newydd ar unwaith. Codir ffi o £5.00 am bob pas newydd.
Wedi ei bostio ar 01/09/2026