Estyn dyddiad cau ymgynghoriad y CDLlN i 22 Mawrth

Y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN)
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) wedi’i estyn.
Mae gan aelodau o’r cyhoedd rŵan tan 22 Mawrth i gymryd rhan a chyflwyno eu hadborth.
Mae’r CDLlN yn ddogfen cynllunio allweddol sy’n nodi lle bydd cartrefi newydd, safleoedd cyflogaeth a mannau gwyrdd yn cael eu lleoli ar draws Sir Conwy (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri). Bydd yn llywio datblygiad yn ardal y cynllun hyd at 2033, gan ddisodli’r Cynllun Datblygu Lleol presennol.
Agorodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fis Ionawr, ac mae 7 sesiwn alw heibio wedi’u cynnal.
Mae’r holl wybodaeth ar gael ar-lein yn www.conwy.gov.uk/CDLlN ac mae copïau caled ar gael i’w darllen yng Nghoed Pella ac yn ein llyfrgelloedd tan 22 Mawrth.
Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael ei adolygu a’i gyflwyno trwy broses ddemocrataidd y Cyngor yng Ngwanwyn 2026. Gofynnir i Gynghorwyr gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio gan y Cyhoedd.
Yna bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ar gyfer Archwiliad Annibynnol.
Cefndir:
Mae’n ofynnol i holl awdurdodau lleol baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer eu hardal. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y Sir i gwmpasu’r cyfnod o 2018 i 2033. Mae’r CDLlN wedi esblygu trwy nifer o gamau cynllunio allweddol ers dechrau’r broses yn 2018. Mae mwy o wybodaeth yn Cynllun Datblygu Lleol Newydd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 02/03/2026