Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cydnabyddiaeth i'r Rhaglen Bwyd a Hwyl yng Nghonwy

Cydnabyddiaeth i'r Rhaglen Bwyd a Hwyl yng Nghonwy


Summary (optional)
start content

Cydnabyddiaeth i'r Rhaglen Bwyd a Hwyl yng Nghonwy

Bwyd a Hwyl Food and Fun

Gwobrau Bwyd a Hwyl

Mae staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n helpu i gynnal sesiynau bwyd a gweithgareddau mewn ysgolion yn ystod y gwyliau haf wedi cael eu cydnabod mewn gwobrau cenedlaethol. 

Mae’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei chynnal drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol.

Cafodd dau aelod o staff o Gonwy eu cydnabod am eu gwaith yn y gwobrau Bwyd a Hwyl yng Nghaerdydd y mis diwethaf (06/11/25).

Mae’r rhaglen, sy’n mynd ers 10 mlynedd, yn darparu brecwast a chinio maethlon i ddisgyblion, ynghyd ag ystod o weithgareddau yn cynnwys chwaraeon, crefftau a garddio.  Ei nod yw gwella iechyd meddwl a lles disgyblion, annog bwyta’n iach a hyrwyddo gweithgaredd corfforol. 

Yn 2025, cymerodd 12 o ysgolion Conwy ran yn y fenter ac roedd y sesiynau’n cael eu cynnal gan Wasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn y Cyngor. Cymerodd tua 550 o ddisgyblion ran mewn 12 sesiwn dros gyfnod o 3 wythnos yn ystod gwyliau’r haf 2025.

Cafodd Celia Caldecott, Cydlynydd Bwyd a Hwyl, wobr Cymeradwyaeth Uchel am ei gwaith cydlynu rhagorol ar draws sawl ysgol, gan sicrhau darpariaeth ddiogel, ddiddorol a maethlon i blant a phobl ifanc. Cydnabu’r beirniaid ei hymroddiad, ei harolygiaeth strategol a’i dull cydweithredol, sydd wedi bod yn rhan hanfodol o lwyddiant y rhaglen.

Cafodd Angharad Williams, a oedd yn arwain darpariaeth Bwyd a Hwyl y Gogarth, y wobr Cyfraniad Rhagorol fawreddog. Roedd ei gwaith yn Ysgol y Gogarth yn cefnogi pobl ifanc yn ystod gwyliau’r haf, gan gyfuno gweithgareddau cyfoethogi cynhwysol gydag amgylchedd croesawus a chyfeillgar. Canmolwyd Angharad am ei harweinyddiaeth a’r gwerthoedd gofal, creadigrwydd a chymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Conwy â chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn, “Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu angerdd a phroffesiynoldeb yr holl dîm Addysg, a’u hymroddiad i fynd i’r afael â bod yn llwglyd dros y gwyliau gan hyrwyddo lles a chryfhau cysylltiadau cymunedol yn ein hysgolion. Maen nhw hefyd yn amlygu rôl hanfodol gweithwyr ieuenctid, gweithwyr chwarae a staff arlwyo, y mae eu hymroddiad yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi, eu bwydo ac yr ymgysylltir a nhw mewn amgylcheddau diogel, cynhwysol.”

 

 

Wedi ei bostio ar 22/12/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content