Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gwahodd preswylwyr i ddathlu Wythnos Natur Cymru ym Mharc Eirias

Gwahodd preswylwyr i ddathlu Wythnos Natur Cymru ym Mharc Eirias


Summary (optional)
start content

Gwahodd preswylwyr i ddathlu Wythnos Natur Cymru ym Mharc Eirias

Diwrnod Natur

Diwrnod Natur 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn annog preswylwyr i ddarganfod a mwynhau’r natur sydd ar ei stepen drws yn ystod Wythnos Natur Cymru, 4-12 Gorffennaf 2026.

I nodi cychwyn yr wythnos, fe fydd y Cyngor yn cynnal Diwrnod Natur addas i deuluoedd ym Mharc Eirias ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf rhwng 11am a 3pm, wedi’i ariannu gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Mae’r digwyddiad ar agor i bawb a’r nod yw dod â sefydliadau, grwpiau cymunedol a phreswylwyr lleol ynghyd am ddiwrnod sy’n canolbwyntio ar natur, lles a dysgu mwy am yr amgylchedd o’n cwmpas. 

Gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys celf a chrefft sy’n seiliedig ar natur, stondinau rhyngweithiol, paentio wynebau, adrodd straeon a chyfleoedd i gysylltu â grwpiau lleol.

Meddai Cyng Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd ac Isadeiledd: “Rydym ni’n falch o fod yn cefnogi Wythnos Natur Cymru yma yng Nghonwy. Mae natur o’n cwmpas yn ein parciau, cymunedau a’r arfordir, ac mae hwn yn gyfle gwych i bobl o bob oedran ar hyd a lled Conwy i ailgysylltu ag o. 

“Mae ein Diwrnod Natur ym Mharc Eirias yn ffordd wych i deuluoedd a chymunedau ddod ynghyd, cael hwyl a dysgu mwy am y ffyrdd syml y gallwn ni gyd gefnogi ac amddiffyn ein hamgylchedd lleol.

Mae Wythnos Natur Cymru, wedi’i gydlynu gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, yn cael ei gefnogi gan sefydliadau, cymunedau a phartneriaethau natur lleol ar hyd a lled Cymru, gan gydweithio i hybu ac amddiffyn bioamrywiaeth.

Fe anogir preswylwyr i ddod draw i ddigwyddiad Diwrnod Natur a chymryd rhan gydol yr wythnos drwy archwilio’r mannau gwyrdd a bywyd gwyllt yn yr ardal leol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:  Wythnos Natur Cymru - Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Wedi ei bostio ar 25/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content