Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhos Point - cais ar gyfer dymchwel

Rhos Point - cais ar gyfer dymchwel


Summary (optional)
start content

Rhos Point - cais ar gyfer dymchwel

Rhos Point

Rhos Point

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud cais am ganiatâd i ddymchwel adeiladu yn Rhos Point yn Llandrillo-yn-Rhos.

Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU, mae’r Cyngor wedi gwneud cais i dynnu’r adeiladau, sydd wedi bod yn destun nifer o ddigwyddiadau torri i mewn a fandaliaeth.  Nid yw’r Tŵr Gradd II yn rhan o’r gwaith dymchwel arfaethedig.

Bydd y cais bellach yn destun y broses gynllunio arferol.

Dywedodd y Cyng. Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu Conwy, “Yn sicr bydd clirio’r safle yn ei gwneud yn haws i ail-ddatblygu yn y dyfodol, felly byddwn yn parhau i weithio gyda’r datblygwr a ffefrir.  Bydd unrhyw gynnig ar gyfer y safle yn y dyfodol yn destun cais cynllunio ar wahân.”

Os rhoddir caniatâd, bwriad y Cyngor yw dymchwel yr adeiladau a gwneud y safle’n ddiogel eto.

 

 

Wedi ei bostio ar 09/09/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content