Cartref Newyddion Eitemau newyddion Rhoi wyneb newydd ar ffordd: A547 Ffordd Abergele, Llanddulas
start content

Rhoi wyneb newydd ar ffordd: A547 Ffordd Abergele, Llanddulas

Resurfacing 05 (I)

Rhoi wyneb newydd ar ffordd

Gwaith yn dechrau: Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026
Gwaith yn dod i ben: Dydd Gwener 04 Tachwedd 2026

Beth sy’n digwydd?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi wyneb newydd ar 1.2km o’r A547 Ffordd Abergele, yn dechrau wrth Cylchfan Llanddulas ac yn ymestyn i’r gorllewin tuag at Hen Golwyn.

Er mwyn lleihau tarfu, cynhelir y gwaith mewn dau gam:

  • Y ffordd sy'n mynd tua'r gorllewin: Gwaith yn ystod y nos rhwng 7:00yh a 5:00yb, o ddydd Mawrth 24 Tachwedd i ddydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026.
  • Y ffordd sy'n mynd tua'r dwyrain: Gwaith yn ystod y dydd rhwng 7:30yb a 5:30yh, o ddydd Llun 30 Tachwedd i ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2026.

Er mwyn cwblhau'r gwaith yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd angen cau rhannau o'r ffordd am gyfnod o amser. Bydd system rheoli traffig, gan gynnwys system gonfoi, ar waith trwy gydol y gwaith.

A fydd hyn yn effeithio ar barcio?
Bydd – ni fydd modd parcio ar rai rhannau o’r ffordd tra byddwn yn gwneud y gwaith.
Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.

Beth yw rhoi wyneb newydd?
Cam 1 – tynnu’r wyneb presennol (plaenio yw’r enw ar hyn)
Cam 2 – addasu neu ailosod y gwaith haearn, tyllau caead a gylïau draeniau
Cam 3 – glanhau’r wyneb ag ysgubwr mecanyddol
Cam 4 – gosod haen fondio, i sicrhau bod y wyneb newydd yn glynu
Cam 5 – gosod yr wyneb newydd
Cam 6 – cywasgu a lefelu’r wyneb newydd drwy ddefnyddio rholeri
Cam 7 – ailbeintio'r marciau ffordd

Mae rhoi wyneb newydd ar ffordd yn broses swnllyd a llychlyd, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Bydd yr wyneb newydd ar y ffordd yn arwain at daith fwy llyfn a thawel ar y ffordd a bydd manteision hirhoedlog i’r gymuned.

Cwestiynau?
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cynghori Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar affch@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575337.

Diolch i chi am eich amynedd wrth i’n contractwrwneud y gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 23/11/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content