Ysbryd Patagonia yn Llyfrgell Llanrwst

Patagonia-Event-4-Credit-FfotoNant
Ddydd Iau 1 Mai, daeth llyfrgell Llanrwst yn fyw gydag ysbryd Patagonia - digwyddiad arbennig gyda hen ffilm brin o’r Wladfa, cartref y Cymry ym Mhatagonia, diolch i Archif Darlledu Cymru.
Roedd y dathliad yn rhan o gyfres genedlaethol o ddigwyddiadau i anrhydeddu treftadaeth gyfoethog darlledu yng Nghymru, gan ddangos clipiau yn ôl i’r 1950au.
Daeth dros 45 o bobl heibio i fwynhau perfformiad byw gan y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys, a gofnododd hanes y Cymry yn mudo i Batagonia yn ei raglen ddiweddar ar S4C, ‘Gwladfa’.
Mwynhaodd y gynulleidfa drafodaethau ac awgrymiadau difyr ar sut i ddefnyddio offer Archif Darlledu Cymru yn llyfrgell Llanrwst, sef Corneli Clip. Gorsaf gyfrifiadurol mynediad cyhoeddus ble gellir archwilio ffilmiau fideo a sain o hanes darlledu Cymru yn rhad ac am ddim.
Cafwyd lluniaeth blasus gan Blas ar Fwyd i gyd-fynd â’r adloniant gwych.
Meddai Sharon Morgan, Pennaeth Adain Dros Dro: Diwylliant, Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn hynod falch o gynnal un o Gorneli Clip Cymru yma yn llyfrgell Llanrwst. Mae’n adnodd gwych sy’n dod â’n treftadaeth ddarlledu i ganol y gymuned. Os ydych yn ymchwilydd, myfyriwr neu rywun sy’n mwynhau diwylliant a hanes Cymru, mae’r Corneli Clip yn rhoi mynediad am ddim i bawb at drysorfa o deledu a radio ar hyd y degawdau. Mae digwyddiadau fel hyn nid yn unig yn dathlu ein gorffennol, ond hefyd yn dod â’n cymuned at ei gilydd i ddysgu, hel atgofion a chysylltu â’n stori ar y cyd.”
Ymhlith lleoliadau Corneli Clip eraill mae Canolfan Ddiwylliant Conwy, yn Archif y Sir.
Dymunwn ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Darlledu Cymru, Gwilym Bowen Rhys, Blas ar Fwyd a staff llyfrgell Llanrwst am eu gwaith caled i gynnal digwyddiad gwych.
Wedi ei bostio ar 14/05/2025