Datganiad - Penrhyn Ltd.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu fel y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy ar gyfer y sir.
Mae’r ffigwr a ddyfynnir yn rhestr y gweinyddwr yn ymwneud â swm gohiriedig posibl, nid tâl am wasanaethau a dderbyniwyd.
Y ffigwr o £475,000 fyddai’r gost a ragwelir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fabwysiadu’r draenio ar safle datblygiad tai Penrhyn Homes ym Mae Colwyn a’i gynnal am y 60 mlynedd nesaf.
Roedd y broses hon ar y gweill ond nid yw wedi ei gwblhau ac felly nid yw’r Cyngor wedi gallu mabwysiadu’r asedau draenio ar y safle hwn.
Mwy o wybodaeth am y Corff Cymeradwyo Cynaliadwy: Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 24/11/2025