Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Corff Cymeradwyo System Draenio Cynaliadwy


Summary (optional)
Newid sylweddol i ofynion draenio yn effeithio ar ddatblygiadau newydd o fis Ionawr 2019
start content

Ers 7 Ionawr 2019, mae angen i bob datblygiad newydd fod â system ddraenio cynaliadwy ar gyfer dŵr wyneb os oes o leiaf 2 eiddo neu os yw’r arwynebedd adeiladu yn fwy na 100m2. Rhaid i’r systemau draenio dŵr wyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu i fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy.

Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy’n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (a elwir fel rheol yn SAB) cyn i waith adeiladu ddechrau. Bydd dyletswydd ar y SAB i fabwysiadu systemau sy’n cydymffurfio.

Beth yw’r ddeddfwriaeth newydd?

Enw’r ddeddfwriaeth yw Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’n ei gwneud yn ofynnol fod systemau draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r Safonau Gorfodol Cenedlaethol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r safonau statudol yn yr hydref 2018. Ond yn y cyfamser, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Offerynnau Statudol a Safonau Cenedlaethol Statudol a CIRIA 753: Llawlyfr SuDS.

Mae atodlen 3 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fel Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf. I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth, gweler Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.

Beth yn union yw SAB?

Mae Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) yn swyddogaeth statudol a ddarperir gan y Cyngor i sicrhau bod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd (ag o leiaf 2 eiddo neu arwynebedd adeiladu mwy na 100m2) yn addas i’r diben. Mae’r SAB yn sicrhau bod draenio wedi’i ddylunio a’i adeiladu yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r SAB:

  • yn darparu gwasanaeth cyn-ymgeisio i drafod eich cynnig
  • yn gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio ar gyfer gwaith adeiladu, ac
  • yn mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb
  • hefyd yn meddu ar bwerau i archwilio systemau a chymryd camau gorfodi lle bo angen


Beth mae’n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

Mae’r gyfraith yn berthnasol p’un a ydych yn ddatblygwr, asiant neu unigolyn sy’n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad. Os oes gan eich datblygiad 2 eiddo neu fwy neu os yw’r arwynebedd adeiladu yn fwy na 100m2, rhaid i chi gael cymeradwyaeth SAB ar wahân i’ch caniatâd cynllunio. Ni all gwaith adeiladu ddechrau nes i’r ddau ganiatâd gael eu rhoi.

Ni fydd rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth SAB os yw’r canlynol yn wir am eich safle neu ddatblygiad presennol:

  • mae wedi cael caniatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019
  • bernir bod caniatâd cynllunio wedi’i roi (gyda neu heb unrhyw amodau am fater a gadwyd yn ôl)
  • mae cais dilys wedi mynd i’r cynllunwyr erbyn 7 Ionawr 2019, ond nid yw wedi’i benderfynu eto

Bydd rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth SAB os yw’r canlynol yn wir am eich safle neu ddatblygiad presennol:

  • mae wedi cael caniatâd cynllunio yn amodol ar amod am fater a gadwyd yn ôl, ac nid ydych wedi gwneud cais am gymeradwyaeth i’r mater a gadwyd yn ôl cyn 7 Ionawr 2020.

Ydi hyn yn berthnasol i bob datblygiad?

Ni fydd rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth SAB:

  • os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich datblygiad a bod yr arwynebedd adeiladu yn llai na 100m2.
  • os yw eich datblygiad ar gyfer tŷ annedd sengl, neu fath arall o adeiladu, sy’n cwmpasu darn o dir llai na      100m2.

Sut gallaf gael cymeradwyaeth gan SAB ar gyfer fy system ddraenio?

Mae SAB Conwy yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio i drafod eich safle yn fanwl, a gofynion draenio a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Mae ffi am y gwasanaeth hwn.

Bydd y broses hon ar wahân i’r broses cais cynllunio. Fodd bynnag, bydd angen cynnal trafodaethau ac ymgynghoriad rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol, y SAB a’r datblygwr o’r cam cyn-ymgeisio ymlaen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y dyluniad Systemau Draenio Cynaliadwy yn addas ac yn unol â safonau cenedlaethol, a bod gosodiad y safle yn ddigonol, a bod y SAB wedi rhoi cymeradwyaeth. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn cyn i chi gyflwyno eich cais llawn, er mwyn cyfyngu ar oedi o ran cymeradwyo a lleihau cost yn y tymor hir. 

Holwch ni am ffurflenni cais a dogfennau. Mae angen i chi gyflwyno ffurflenni yn uniongyrchol i SAB Conwy oherwydd ni allwch eu llenwi na’u cyflwyno drwy’r Porth Cynllunio.

Sut gallaf gysylltu â SAB Conwy?

Y dyddiad dechrau ar gyfer y gofyniad cymeradwyaeth oedd 7 Ionawr 2019.Mae ein gwasanaeth newydd ar gael i ddelio â’ch ceisiadau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y broses hon, cysylltwch â ni drwy sab@conwy.gov.uk

Mae’r tudalennau gwe hyn yn adnodd defnyddiol, rhad ac am ddim, i gael rhagor o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy a’ch helpu i ddeall beth fydd angen i chi feddwl amdano:

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content