Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Datganiad ar yr adolygiad o'r terfyn cyflymder 20mya

Datganiad ar yr adolygiad o'r terfyn cyflymder 20mya


Summary (optional)
start content

Datganiad ar yr adolygiad o'r terfyn cyflymder 20mya

Yn dilyn y cyngor yr wythnos ddiwethaf gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ynghylch yr adolygiad o’r terfyn cyflymder 20mya, dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru i newid y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig o 30mya i 20mya yn newid sylweddol i bawb.  O ganlyniad, fe fydd yn cymryd amser i ni ddod i arfer gyda hyn.  Rydym wedi gwneud ambell i eithriad lleol, gan gadw’r terfyn cyflymder yn 30mya ar rai ffyrdd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.  Rydym wedi dweud o’r dechrau y byddai’n briodol adolygu’r eithriadau hyn yn dilyn y cyfnod ymsefydlu.

“Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon y bydd yn adolygu’r canllawiau a’r meini prawf eithriadau a ddarparwyd i gynghorau.  Yn amlwg, bydd yn rhaid i ni gymryd y rhain i ystyriaeth hefyd, ac felly ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol nes byddwn yn gwybod pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud i’r meini prawf hyn.  

“Yn y cyfamser, os bydd preswylydd yng Nghonwy’n teimlo y dylid newid y terfyn cyflymder ar ffordd arbennig o 20mya i 30mya, neu o 30mya i 20mya, gallant gysylltu â’n tîm Traffig.  Gofynnwn iddynt ddarparu gymaint o wybodaeth a chyfiawnhad â phosibl, gan gynnwys pam nad yw’r terfyn cyflymder yn unol â’r canllawiau cyfredol gan Lywodraeth Cymru. 

“Byddwn yn gwrando ar farn pob defnyddiwr ffordd - modurwyr, beicwyr a cherddwyr.  Byddwn yn ystyried barn preswylwyr am y ffordd dan sylw o ran p’un a hoffent newid y terfyn cyflymder ar y ffordd lle maent yn byw yn arbennig.  

“Yn yr un modd ag unrhyw newid i derfynau cyflymder, bydd yn rhaid cael Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Mae proses statudol ar gyfer ystyried ac ymgynghori ar wrthwynebiadau cyn gwneud penderfyniad terfynol.”   

E-bost:  traffig@conwy.gov.uk
Canllawiau terfynau cyflymder Llywodraeth Cymru:  https://www.llyw.cymru/pennu-eithriadau-ir-terfyn-cyflymder-diofyn-o-20mya-ar-ffyrdd-cyfyngedig-html

Wedi ei bostio ar 29/01/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content