Sialens Ddarllen yr Haf 2025

Sialens Ddarllen yr Haf 2025
Mae Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn dechrau Dydd Sadwrn (05/07/25) a bydd yn cynnwys gweithgareddau am ddim i deuluoedd.
Mae’r sialens eleni’n dathlu creadigrwydd a gallu plant i ddweud stori gyda’r thema, ‘Gardd o Straeon‘ yn edrych ar natur, ein hamgylchedd a chynefinoedd naturiol.
Yn ystod yr haf, gall plant rhwng 4-11 oed ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf, a thanio eu dychymyg drwy rym darllen a mynegiant creadigol.
Dywedodd y Cyng Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG: “Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn boblogaidd iawn yn Sir Conwy, ac mae’n gyfle gwych i blant ddarganfod y gweithgareddau a’r adnoddau sydd ar gael yn eu llyfrgell leol.”
Gofynnir i’r blant ddarllen 6 llyfr (neu fwy!) cyn diwedd yr haf.
Byddant yn cael poster casglwyr arbennig pan fyddant yn ymuno â’r Sialens Ddarllen, sticeri pan fyddant yn ymweld â’r llyfrgell i gael mwy o lyfrau a thystysgrif a gwobr pan fyddant yn cwblhau’r sialens.
Bydd plant yn cael eu hannog i edrych ar lyfrau a straeon newydd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim, o gelf a chrefft i garddio a mwy.
Sut mae’n gweithio:
- Bydd plant yn cofrestru drwy eu llyfrgell leol ac yn cael ffolder casglu.
- Byddan nhw’n gosod targed darllen ac yn benthyg llyfrau o’u dewis nhw yn ystod yr haf gan gasglu gwobrau a sticeri arbennig.
- Bydd staff y llyfrgell yn helpu plant i ganfod llyfrau newydd sy’n addas ar gyfer eu diddordebau a’u lefelau darllen nhw ac yn cynnal rhaglen weithgareddau â thema yn rhad ac am ddim yn y llyfrgell.
- Bydd plant sy’n cwblhau’r Sialens yn cael tystysgrif a medal.
Gallwch ymweld â gwefan 'The Reading Agency' am ragor o wybodaeth!
Dolen i’r Fideo: Llyfrgelloedd Conwy - Sialens Ddarllen yr Haf 2025 - YouTube
Wedi ei bostio ar 30/06/2025