Tai â Chymorth ym Mae Colwyn

Tai â Chymorth ym Mae Colwyn
Mae Stori wedi cyhoeddi bod naw o fflatiau lefel-isel tai â chymorth wedi’u hagor ym Mae Colwyn, a fydd yn garreg gamu hollbwysig i bobl sy’n symud ymlaen o ddigartrefedd a thuag at fyw’n annibynnol.
Cafodd y cynllun ei gomisiynu gan Stori mewn partneriaeth â datblygwr lleol yn rhan o ymrwymiad parhaus y sefydliad is gynyddu’r cyflenwad o dai diogel, sefydlog sydd ar gael i bobl sydd â’r angen mwyaf amdano. Mae’r fflatiau newydd yn cynnig lle cefnogol sy’n canolbwyntio ar feithrin annibyniaeth unigolion sydd ddim angen ymyrraeth ddwys bellach, ond a fyddai’n elwa o rywfaint o gefnogaeth wrth iddynt ddechrau ar bennod newydd yn eu bywydau.
Gan weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd Stori yn cefnogi preswylwyr i setlo yn eu cartrefi newydd a datblygu’r sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol i allu cadw tenantiaeth am gyfnod hirdymor. Mae hyn yn cynnwys cymorth ymarferol i gadw cyllideb, rheoli tenantiaeth, gwarchod lles, creu cyswllt â’r gymuned, a meithrin sgiliau bywyd bob dydd, sydd oll wedi’u bwriadu i alluogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol.
Mae’r datblygiad yn arwydd o’r uchelgais mae Stori a Chyngor Conwy’n ei rannu i leihau digartrefedd, atal pobl rhag bod yn ddigartref eto, a sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn er mwyn iddynt allu symud heb drafferthion o lety dros dro neu lety argyfwng i’w cartref sefydlog eu hunain.
Dywedodd Andrew Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Stori, “Mae’r cynllun yma’n dangos beth allwn ni ei gyflawni wrth weithio mewn partneriaeth i greu’r cartrefi a’r cymorth cywir i bobl sy’n symud ymlaen o fod yn ddigartref, gan helpu unigolion i wneud hynny gyda mwy o sefydlogrwydd a hyder.”
Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, “Rydw i’n falch iawn o weld y fflatiau yma’n agor ym Mae Colwyn. Mae’r datblygiad yn gam mawr ymlaen i ddarparu cartrefi diogel a chefnogol i rai o’r bobl yn ein cymuned sydd â’r angen mwyaf amdanyn nhw. Braf iawn yw gweld y weledigaeth yma’n cael ei gwireddu ac rydyn ni’n ddiolchgar am y bartneriaeth gref gyda Stori a phob un sydd wedi gweithio i gyflawni’r prosiect.”
Mae’r datblygiad newydd bellach yn croesawu ei breswylwyr cyntaf, sy’n garreg filltir bwysig yn y gwaith parhaus o wella opsiynau tai a chefnogi pobl ddiamddiffyn ar draws y rhanbarth.
Wedi ei bostio ar 02/02/2026