Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Llwyddiant wrth i Heavenly Desserts Agor eu Drysau gyda Chefnogaeth y Cyngor

Llwyddiant wrth i Heavenly Desserts Agor eu Drysau gyda Chefnogaeth y Cyngor


Summary (optional)
start content

Llwyddiant wrth i Heavenly Desserts Agor eu Drysau gyda Chefnogaeth y Cyngor

Heavenly Desserts

Heavenly Desserts

Mae lleoliad pwdinau newydd wedi agor ei ddrysau ar Mostyn Street yn Llandudno, gan roi hwb i’r economi leol ac ychwanegu rhagor o egni i’r stryd fawr.

Heavenly Desserts yw’r busnes diweddaraf i gael cefnogaeth grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae wedi lansio lleoliad newydd sbon yn swyddogol yng Nghanolfan Siopa Fictoria ar Mostyn Street. Mae’r lleoliad yn cynnig amrywiaeth o bwdinau artisan a wnaed â llaw a diodydd arbennig, i gyd wedi’u paratoi’n ffres ar y safle gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr fwynhau danteithion melys arbennig mewn lleoliad steilus.

Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan Grant Datblygu Eiddo Masnachol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy’n fenter a gaiff ei hariannu trwy gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth y buddsoddiad helpu i drawsnewid yr eiddo a dod â’r busnes yn fyw ac roedd yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gefnogi mentrau lleol a chryfhau’r economi leol. 

Disgwylir i’r lleoliad newydd gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ardal a chyfrannu’n gadarnhaol at ganol tref sy’n ffynnu.

Meddai Sarah Ecob, Pennaeth Economi a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Rydym yn falch o groesawu Heavenly Desserts i’r ardal. Dyma enghraifft o sut gall buddsoddiad wedi’i dargedu gefnogi twf busnesau, creu cyfleoedd cyflogaeth lleol a gwella canol ein trefi.”

Dywedodd Abdul Rehman, Cyfarwyddwr Cwmni a Deiliad y Fasnachfraint yn Heavenly Desserts: “Gyda harddwch Llandudno, rydym yn edrych ymlaen at droi awyrgylch da yn eiliadau nefolaidd gyda bwyd arbennig wedi’i wneud â llaw ac awyrgylch steilus. Rydym yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – fyddai’r prosiect ddim wedi gallu digwydd hebddi. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i fwynhau eiliadau melys a sawrus gyda ni.”

Agorodd y siop newydd ei drysau ddydd Sadwrn 4 Ebrill 2026 ac mae yng Nghanolfan Siopa Fictoria ar Mostyn Street.

Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewid Trefi a’r Grant Canol Trefi ar agor ar gyfer ceisiadau newydd ar gyfer 2026/27. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at adfywio@conwy.gov.uk.

 

Nodiadau:

Mae’r Grant Datblygu Eiddo Masnachol wedi’i ariannu gan gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi | LLYW.CYMRU 
Nod y grant yw cefnogi busnesau i ehangu, creu swyddi ac ailddefnyddio eiddo gwag neu nad yw’n cael ei ddefnyddio yng nghanol trefi. 
I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth, ewch i Grant Datblygu Eiddo Masnachol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu cysylltwch ag adfywio@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 07/04/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content