Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi hwb i Gonwy
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Y Gronfa) wedi rhoi hwb i Gonwy, gan gefnogi amrywiaeth eang o fentrau lleol.
Bydd cynghorwyr yn clywed am yr effaith y mae buddsoddiad Y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i chael yn y Sir dros y tair blynedd diwethaf mewn cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ar 20 Hydref.
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyfanswm o £24 miliwn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa er mwyn sicrhau canlyniadau i breswylwyr, busnesau a chymunedau.
Ariannwyd 31 o brosiectau craidd a oedd yn cefnogi amrywiaeth o fentrau gan gynnwys buddsoddi mewn cyflogadwyedd a sgiliau; gwelliannau i isadeiledd ac asedau; treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth; a diogelwch cymunedol.
Ymhlith y 31 o brosiectau yr oedd pedair Cronfa Allweddol, tair ohonynt yn cael eu rheoli gan y Cyngor: Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol; Cronfa Allweddol Cefnogi Busnesau Lleol, a Chronfa Allweddol Pobl a Sgiliau a'r bedwaredd Gronfa Allweddol, sef y Sector Gwirfoddol a Chynyddu Gallu, yr oedd yn cael ei rheoli gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy. Cefnogodd y Cronfeydd Allweddol hyn brosiectau ar raddfa lai a gwnaethon nhw alluogi i gyllid y Gronfa gael ei rannu yn lleol ar gyfer prosiectau a nodwyd gan gymunedau, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Gwnaeth dros £8 miliwn mewn grantiau’r Gronfa gefnogi mwy na 190 o brosiectau drwy'r Cronfeydd Allweddol. Cyflawnwyd manteision mesuradwy i gymunedau a busnesau ledled y sir, sy’n dangos effeithiolrwydd buddsoddiad wedi'i dargedu'n lleol.
Dywedodd Cyng Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Cynaliadwy a Chyfathrebu, “Rwyf wrth fy modd bod prosiectau ledled ein sir wedi'u cyflawni, mae'r rhain wedi cael effaith sylweddol ar drigolion, cymunedau a busnesau. Mae prosiectau wedi cyfoethogi'r amgylcheddau diwylliannol ac economaidd yn ein trefi a'n pentrefi ac wedi darparu cyfleoedd cyflogaeth a mynediad gwell at gyflogaeth i drigolion ledled y Sir.”
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU: rhoi pŵer i gymunedau ym mhobman, a chanolbwyntio’n benodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi pum cenhadaeth genedlaethol llywodraeth y DU: rhoi pŵer i gymunedau ym mhobman, a chanolbwyntio’n benodol ar helpu i roi hwb i dwf economaidd a hyrwyddo cyfleoedd ym mhob rhan o’r DU.
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ar 20 Hydref. Gellir gweld yr Agenda a gwylio’r cyfarfod yma: Democratiaeth Leol Conwy : Rhaglen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau ddydd Llun, 20 Hydref 2025, 10.00 am
Wedi ei bostio ar 15/10/2025