Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi gwaith adnewyddu toiledau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi gwaith adnewyddu toiledau


Summary (optional)
start content

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi gwaith adnewyddu toiledau

Public Toilet interior

Toiledau cyhoeddus

Mae un ar ddeg o doiledau cyhoeddus ar draws sir Conwy wedi’u hailwampio neu eu trwsio, diolch i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dyfarnwyd £134,467.67 i Wasanaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau Conwy o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i wneud gwaith i sicrhau bod modd i’r cyhoedd barhau i gael mynediad at gyfleusterau toiledau mewn lleoliadau ar draws y sir.

Gwnaed gwelliannau mewn cyfanswm o 11 o gyfleusterau, o addurno a disodli cloeon, drysau neu ffenestri i adnewyddu’r toiledau yng Nghanolfan Ymwelwyr y Gogarth yn llwyr.

Meddai’r Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, “Rwy’n falch bod y cyllid hwn ar gael i wneud gwelliannau ystyrlon i gyfleusterau mewn cymunedau ar draws y sir gyfan - cyfleusterau y mae preswylwyr lleol, busnesau ac ymwelwyr yn eu gwerthfawrogi. Ynghyd â'r gwelliannau a'r atgyweiriadau angenrheidiol i'n cyfleusterau, mae’r cyfleusterau cyhoeddus yn Nhrefriw ac Ysbyty Ifan wedi cael eu huwchraddio, ac maen nhw bellach yn barod i gael eu trosglwyddo i’r gymuned i’w rhedeg a’u cynnal.”

Roedd y gwelliannau yn bosibl yn sgil cyllid a gafwyd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa, ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - GOV.UK

 

Cafodd toiledau yn y lleoliadau canlynol eu cynnwys yn y prosiect:

Mynwent Cae’r Melwr; Mynwent Rhandir Hedd; Promenâd Cayley, Llandrillo-yn-Rhos; Deganwy; Canolfan Ymwelwyr y Gogarth; Pwll Padlo Traeth y Gogledd a Gerddi’r Gogledd Orllewin, Llandudno; Pensarn; Pont y Pair, Betws-y-coed; Trefriw ac Ysbyty Ifan.

Wedi ei bostio ar 28/08/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content