Gwaith yn dechrau ar lwybr cerdded a beicio newydd Glan Conwy

Llwybr newydd – yn cael ei adeiladu
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi bod gwaith i gysylltu Glan Conwy a Chyffordd Llandudno drwy greu llwybr newydd oddi ar y ffordd i gerddwyr, beicwyr ac olwynion wedi dechrau.
Mae’r llwybr teithio llesol wedi’i gynllunio i hwyluso teithiau, eu gwneud yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, a phobl â phramiau a sgwteri symudedd.
Wedi'i ariannu'n bennaf gan Lywodraeth y DU, bydd y llwybr 2km o hyd yn cynnwys dwy bont newydd yn croesi Rheilffordd Dyffryn Conwy ac Afon Ganol ym mhen Glan Conwy. Mae'r dyluniadau'n cynnwys llwybr palmantog 3 metr o led gyda goleuadau amgylcheddol sensitif a fydd yn addas i'w ddefnyddio drwy’r flwyddyn.
Bydd y llwybr yn cysylltu â’r gwelliannau teithio llesol diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mhen Cyffordd Llandudno ar Gyffordd 18 yr A55 (rhwng cylchfannau’r RSPB a Tesco) a hefyd yn cysylltu â’r bont i’r Cob ar gyfer mynd ymlaen i Gonwy.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Gontractwyr Peirianneg Sifil ac Adeiladu Jennings, sydd wedi'u lleoli ym Mae Colwyn.
Mae cam cyntaf y gwaith yn cynnwys gwella’r llwybr o bont reilffordd Conwy i faes parcio’r RSPB a dechrau’r llwybr newydd a fydd yn mynd heibio i’r ganolfan ymwelwyr.
Rhwng mis Mawrth a mis Medi, gwaith cyfyngedig yn unig fydd yn cael ei wneud y tu allan i ardaloedd sensitif, er mwyn osgoi tarfu ar adar yn y warchodfa.
Disgwylir i ail gam y gwaith ddechrau ym mis Medi 2025, gan weithio ar y llwybr drwy'r warchodfa i gyfeiriad Glan Conwy.
Meddai’r Cyng. Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Gofynnwyd am y llwybr hwn gan aelodau’r cyhoedd ers sawl blwyddyn. Bydd yn ei gwneud yn fwy diogel i drigolion Glan Conwy gerdded neu feicio i'r ysgol, i'r gwaith, neu i gyrraedd gwasanaethau eraill. Mae’n rhan bwysig o lwybr teithio llesol arfaethedig Môr i’r Mynydd, y gobeithiwn y bydd yn rhedeg o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-Coed.”
Wedi ei bostio ar 08/05/2025