Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Disgyblion Ysgol Glan Conwy yn gweld Llwybr Teithio Llesol newydd am y tro cyntaf

Disgyblion Ysgol Glan Conwy yn gweld Llwybr Teithio Llesol newydd am y tro cyntaf


Summary (optional)
start content

Disgyblion Ysgol Glan Conwy yn gweld Llwybr Teithio Llesol newydd am y tro cyntaf

RSPB Bridge Ysgol Glan Conwy

Aeth y disgyblion i’r safle i weld y llwybr newydd yn cael ei ffurfio

Yr wythnos hon, aeth disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Glan Conwy i weld llwybr Teithio Llesol a phontydd newydd y maen nhw wedi helpu i’w henwi. Ger gwarchodfa’r RSPB yng Nglan Conwy, bydd y llwybr newydd yn agor mynediad ac yn gwasanaethu’r gymuned am flynyddoedd.

Aeth y disgyblion i’r safle i weld y llwybr newydd yn cael ei ffurfio a dysgu mwy am y gwaith o’i greu cyn iddo agor yn swyddogol yn nes ymlaen eleni.

Dywedodd Mrs Michelle Evans, athrawes yn Ysgol Glan Conwy: 

“Mae wedi bod yn wych gweld y disgyblion yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn hyn.  Roeddent yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifri ac yn frwdfrydig iawn wrth ddewis enwau sy’n adlewyrchu’r ardal leol. Rydw i’n falch iawn ohonynt i gyd”

Yn ystod un o’u sesiynau Cyngor yr Ysgol rheolaidd, gofynnwyd i’r disgyblion lunio rhestr fer o enwau posibl a gynigiwyd gan breswylwyr. Meddyliodd y disgyblion sut oedd pob enw yn cynrychioli’r llwybr newydd a’i fudd i’r gymuned, yn cynnwys annog cerdded a chysylltu pobl â mannau naturiol lleol. Mae’r enwau mae’r plant wedi eu dewis ar gyfer y pontydd yn adlewyrchu chwedl y Santes Ffraid a dathlu ein hanes fel pentref.

Cafodd rhestr fer o’r enwau eu rhoi i’r tîm prosiect, a wnaeth y dewis terfynol: 

  • Enw cyffredinol y llwybr fydd “Lôn yr Adar”
  • Pont y rheilffordd fydd “Pont Sanffraid”
  •  Y Bont Ganol fydd “Pont y Brwyn”

Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd ac Aelod yn Ward Glan Conwy:

“Mae’n wych  gweld pobl ifanc yn helpu i siapio’r prosiect hynod o bwysig hwn. Mae cynnwys Cyngor yr Ysgol yn rhoi llais i ddisgyblion ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y gymuned a’r llwybr Teithio Llesol newydd hwn, fydd yn dod â budd parhaus i Lan Conwy am flynyddoedd lawer”

Mae’r bont newydd yn rhan o’r llwybr Teithio Llesol gyda’r nod o wella cysylltiadau cerdded a beicio yng Nglan Conwy, gan gefnogi ffordd o fyw iachach, cael gwared ar y groesfan brysur yng nghylchfan Black Cat, a mynediad gwell at amwynderau lleol.   Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau:

“Mae llawer o waith wedi’i wneud i greu’r llwybr hwn a’i bontydd. Pan fydd ar agor, bydd Lôn yr Adar yn darparu cysylltiadau diogel, hygyrch a chyfeillgar i’r amgylchedd i Lan Conwy, sy’n annog dewisiadau teithio llesol a mynediad agored at fannau gwyrdd yr ardal.”

Y Cynghorydd Julie Fallon, Arweinydd:

“Mae Lôn yr Adar wedi cael ei siapio gan y gymuned, ei henwi gan ei phlant a’i hadeiladu i wasanaethu preswylwyr am genedlaethau. Rydw i’n falch iawn o weld hyn y digwydd ac yn edrych ymlaen at weld y llwybr yn agor yn nes ymlaen eleni.”

Disgwylir i’r llwybr Teithio Llesol a’r pontydd agor i’r cyhoedd yn  nes ymlaen eleni. 

 

Wedi ei bostio ar 16/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content