Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadeirio ac yn cydlynu Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy. Mae'r grŵp yma'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Conwy a sefydliadau eraill.
start content

Mae'r grŵp yn cyfarfod er mwyn:

  • Hyrwyddo agweddau ar ddiogelwch digwyddiadau, fel digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau mawr eraill.
  • Helpu i sicrhau nad yw digwyddiad yn amharu ar iechyd, diogelwch neu les y gymuned y mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ynddi.
  • Datblygu/hyrwyddo trefniadau gweithio ar y cyd.  
  • Sicrhau bod trefnwyr digwyddiadau yn ymwybodol o'u dyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, ac mai rôl ymgynghorol yn unig sydd gan Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy.

Mae'r grŵp yn gweithio'n agos efo Adran Digwyddiadau a Marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae Cylch Gorchwyl Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy ar gael isod. 

Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Conwy - Cylch Gorchwyl a Chyfarwyddyd Digwyddiadau

Ffynonellau o gyngor sydd ar gael i'r cyhoedd ynglŷn â diogelwch digwyddiadau i drefnwyr digwyddiadau

Canllaw 'The Purple Guide' i iechyd, diogelwch a lles mewn digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau tebyg

#BeSafeBeSound – Pecyn Cyfryngau | Plismona Gwrthderfysgaeth

end content