Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosiectau Bywyd y Bae


Summary (optional)
Mae’r rhestr ganlynol o brosiectau yn weithredol ar hyn o bryd yn y Rhaglen Bywyd y Bae.
start content

Prosiect Glan Môr Bae Colwyn

  1. Gwaith amddiffyn yr arfordir - darparu amddiffynfeydd arfordirol newydd ar hyd glan y môr.
  2. Gwelliannau amgylcheddol i’r promenâd – integreiddio amddiffynfeydd môr newydd gyda gwelliannau amgylcheddol ar hyd y promenâd.

Porth Eirias

Adeilad trawiadol ac eiconig yng nghanol y gwelliannau promenâd newydd ym Mae Colwyn.

  1. Mae Porth Eirias yn ganolfan ar gyfer y gymuned gyfan ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae’n cynnig man chwarae modern i blant yn yr awyr agored; dosbarthiadau hwylio, hwylfyrddio, cychod pŵer a hyd yn oed defnyddio bwrdd padlo yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, cyfleusterau ystafelloedd newid modern a chysurus, a man cyfarfod a digwyddiadau trawiadol o’r radd flaenaf sy'n creu argraff gyda golygfeydd hyfryd dros y môr.
  2. Mae’r ganolfan wedi dod yn gartref i fistro a gynlluniwyd ac a ddatblygwyd gan y Cogydd Cymreig enwog Bryn Williams. Mae Porth Eirias yn ddatblygiad adeilad newydd trawiadol ac eiconig yng nghanol y gwelliannau promenâd newydd ym Mae Colwyn.

Parc Eirias

  1. Bu i brosiect gwerth £6.5 miliwn dan raglen adfywio Bywyd y Bae ddatblygu Parc Eirias yn Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer diwylliant, hamdden a chwaraeon.
  2. Datblygiad Eirias yw atyniad chwaraeon ac fel arall pennaf Bae Colwyn a Chonwy ac mae’n gartref i amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol a rhanbarthol, i gyd wedi’u lleoli mewn hanner can erw o dir parc prydferth.

Adnewyddu tai

  1. Adnewyddu 524 o unedau preswyl yng nghanol Bae Colwyn.
  2. Datblygu cynllun rheoli cymdogaeth.

Lle i Fyw

  1. Darparu amrywiaeth addas o dai mewn amgylchedd hygyrch, cytbwys.
  2. Cydlynu pryniannau eiddo ac ailddatblygu gan Gymdeithasau Tai i ddarparu amrywiaeth o dai fforddiadwy.

Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn

Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn adfywiad a arweinir gan gadwraeth a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri.

Nod y rhaglen yw:

  1. Diogelu ac adfer treftadaeth.
  2. Dod â mannau gwag yn ôl i ddefnydd – (Siop dros dro)
  3. Cefnogi datblygu sgiliau lleol
  4. Ymgysylltu â'r Gymuned

Pryniannau Safleoedd Strategol

Dod ag eiddo problemus allweddol i reolaeth y cyhoedd/ perchnogaeth Trydydd Sector i gynorthwyo gyda hwyluso ac optimeiddio adfywio’r dref, e.e. hen safle neuadd y farchnad.

Pier Fictoria

  1. Chwilio am ateb i’r safle problemus hwn yng nghanol glan y môr.
  2. Sicrhau diogelwch y cyhoedd ar y traeth.
  3. Lle bo’n briodol ac ymarferol, cynrychioli rhan o Dreftadaeth y Pier.

Llinell amser Prosiect y Pier

Strategaeth Gofod Swyddfa

  1. Swyddfa modern yng nghanol Bae Colwyn ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac felly cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant yn y dref.

Theatr Colwyn

Agorodd Theatr Colwyn ym 1885 ac mae’n rhan bwysig o sin gelf Bae Colwyn ac yn rhan annatod o’r prif gynllun a chynnig diwylliannol y dref.

  1. Ailagorwyd Theatr Colwyn ym mis Medi 2011 yn dilyn ailddatblygu blaen tŷ gwerth £738,000 i sicrhau bod y gymuned gyfan yn gallu cael mynediad rhwydd i’r theatr a’i fwynhau.
  2. Golygodd yr uwchraddio i’r taflunydd yn 2012 mai Theatr Colwyn yw’r sinema mwyaf datblygedig yn dechnegol yng Ngogledd Cymru. Disodlwyd taflunio ffilm 35mm traddodiadol gyda’r taflunydd ffilm digidol Sony 4K diweddaraf i wella mynediad i’r rhai sydd wedi colli eu golwg a’u clyw ac agor byd darllediadau byw i’r gymuned.
  3. Mae Oriel Colwyn yn ofod oriel yn Theatr Colwyn sy'n ymrwymedig i arddangos ffotograffiaeth a gweithiau ffotograffig.

Digwyddiadau Strategol a Chymunedol

Mae’r gefnogaeth ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, celfyddydol, diwylliannol a chymunedol o’r radd flaenaf yn helpu i ddenu ymwelwyr, cynyddu balchder yn y gymuned leol a chodi proffil y dref ac adfywio economaidd.

  1. Datblygu lleoliadau sy’n gallu cynnal digwyddiadau cymunedol a digwyddiadau ar raddfa fawr.
  2. Gweithio gyda phartneriaid a datblygu digwyddiadau ar raddfa fawr.
  3. Cefnogi a chynghori trefnwyr digwyddiadau lleol allweddol.

Cynllun Grant Cymunedol

Roedd y gronfa Gymunedol Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid yn gronfa gyllid a neilltuwyd i grwpiau cymunedol ym Mae Colwyn.

Roedd grwpiau lleol a oedd yn gallu dangos cysylltiadau i’r themâu adfywio yn y cais Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid yn gallu cael mynediad i grant cyfalaf bach o Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid i gael arian cyfatebol ar gyfer grantiau eraill a rhoi cyfle i gymunedau lleol Bae Colwyn i chwarae eu rhan eu hunain yn adfywio parhaus eu tref, gan ddarparu naws am le.

Mae llwyddiant Rhaglen Adfywio Bywyd y Bae yn dibynnu ar berchnogaeth gymunedol ac ymgysylltu, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau eu bod yn chwarae rhan ffisegol mewn newidiadau ac yn gallu cymryd perchnogaeth o brosiectau yn eu cymuned. Mae’r Gronfa Gymunedol wedi cyfrannu at y canlynol hyd yma

  • 12 Prosiect Cymunedol Iach wedi’u cefnogi
  • 15 Prosiect Cymunedol Addysg wedi’u cefnogi
  • 12 Prosiect Cymunedol Ifanc wedi’u cefnogi
  • buddsoddi dros £200k i brosiectau cymunedol lleol
end content