Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Cymorth i Ddechrau Gweithio Canolbwynt Cyflogaeth Conwy Canolbwynt Cyflogaeth Conwy i unigolion rhwng 16-19 oed

Canolbwynt Cyflogaeth Conwy i unigolion rhwng 16-19 oed


Summary (optional)
start content

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn wasanaeth pwrpasol ar gyfer helpu pobl ifanc rhwng 16-19 oed yn Sir Conwy.

Rydym yn cynnig:

  • mentoriaid cyflogaeth penodol sy’n cynnig cyngor am waith, swyddi a budd-daliadau
  • mentora personol un-i-un, wedi’i addasu i’r unigolyn
  • cyrsiau hyfforddi am ddim wedi’u cyflwyno gan hyfforddwyr proffesiynol i feithrin sgiliau
  • digwyddiadau hwyliog, am ddim i fagu hyder a gwella iechyd meddwl, wrth ddatblygu sgiliau lles am oes
  • cefnogaeth ar gyfer y sawl sy’n dymuno parhau mewn addysg
  • cymorth ag ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • cefnogaeth ariannol i oresgyn rhwystrau i hyfforddiant a gwaith: costau teithio, dogfennau adnabod
  • ymgysylltu â’r gymuned a chyflogwyr: digwyddiadau, ymgyrchoedd recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau ar lwybrau gyrfa
  • atgyfeiriadau at sefydliadau partner/asiantaethau eraill lle bo hynny’n briodol


Os ydych chi rhwng 16-19 oed ac eisiau cymorth a chefnogaeth gennym, neu’n adnabod rhywun sydd eisiau, gallwch gysylltu â ni trwy’r ffyrdd canlynol:

Gadewch i ni eich helpu i danio’ch dyfodol disglair!

Funded by UK Gov-stacked_Duo_Welsh_Black
Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU.

end content