Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Ynglŷn ag Etholiadau Seddi gwag achlysurol ac isetholiadau

Seddi gwag achlysurol ac is-etholiadau


Summary (optional)
Os yw cynghorydd yn gadael ei sedd yn ystod ei gyfnod yn y swydd, bydd yna sedd wag yn codi.
start content

Gall sedd wag godi am wahanol resymau. Gall ddigwydd pan fo cynghorydd yn ymddiswyddo, yn marw, yn cael ei wahardd (neu’n anghymwys) neu’n methu ymgymryd â’i swydd ar ôl ei ethol. 

Cynghorau tref a chymuned

Pan fo sedd wag bydd Clerc y Cyngor Tref/Cymuned yn arddangos 'Hysbysiad o Sedd Wag’ yn yr ardal gymunedol.

Mae’r hysbysiad yn egluro bod modd galw etholiad os yw 10 etholwr o’r ardal gymunedol yn ysgrifennu at Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Os yw’r gymuned wedi ei rhannu'n wardiau, mae'n rhaid i'r etholwyr fod yn byw yn y ward dan sylw. Mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad yr hysbysiad.

Os gelwir etholiad, mae’n rhaid ei gynnal o fewn 60 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad. Os na dderbynnir unrhyw lythyr i alw etholiad, mae rhwydd hynt i’r Cyngor Tref/Cymuned gyfethol rhywun i lenwi'r sedd wag.

Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor Tref/Cymuned ddewis pwy bynnag y dymunant, yn hytrach na chynnal etholiad.

Cyngor Bwrdeistref Sirol

Pan fo sedd wag bydd 'Hysbysiad o Sedd Wag’ yn cael ei arddangos.

Mae’r hysbysiad yn egluro bod modd galw etholiad pan fo 2 etholwr o ardal etholiadol yn ysgrifennu at y Swyddog Canlyniadau. Os gelwir etholiad, yna mae’n rhaid ei gynnal o fewn 35 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad.

Fodd bynnag, os digwydd i sedd ddod yn wag o fewn 6 mis i ddyddiad yr etholiadau nesaf bydd y sedd yn cael ei llenwi wedi’r etholiad hwnnw. Yn y cyfamser, bydd y sedd yn parhau’n wag ac ni fydd is-etholiad yn cael ei gynnal.

Is-etholiadau

Seddi gwag cynghorau tref a chymuned

Canlyniadau

 

end content