Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Marwolaeth Chwiliadau Coeden Deulu a Hel Achau Chwilio am Wybodaeth am Hanes Teulu, Genedigaethau a Marwolaethau

Chwilio am Wybodaeth am Hanes Teulu, Genedigaethau a Marwolaethau


Summary (optional)
Rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi yn olrhain eich achau. Rydym yn gwybod y gall fod yn broses hir sy'n cymryd amser. Mae ffiniau siroedd ac ardaloedd cofrestru wedi newid sawl gwaith, gan ei gwneud yn anodd weithiau i olrhain yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
start content

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch lle i anfon eich ceisiadau am dystysgrifau, cysylltwch â'ch Swyddfa Gofrestru leol am gyngor. Mae ffurflenni cais am dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar gael isod i chi eu lawrlwytho, eu llenwi a'u postio gyda'r tâl perthnasol.

Os ydych yn ansicr am unrhyw wybodaeth ar y ffurflen, dylech gynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch. Fel arfer, nid yw cyfeirnodau mynegai y gallech ddod o hyd iddynt wrth ymchwilio (e.e. Manylion Cyfrol a Chwarter) yn berthnasol i gofnodion sy'n cael eu cadw'n lleol, ond gallant fod o gymorth wrth nodi cofnod ar y gofrestr.

Gall cofnodion priodasau fod yn arbennig o anodd i'w olrhain, felly os nad ydych chi'n siwr o leoliad y briodas, rhowch unrhyw gyfeiriadau perthnasol ar y pryd a manylion y tadau.

Chwiliadau Cyffredinol

Nid oes gan Swyddfeydd Cofrestru yr adnoddau i ymgymryd â chwiliadau o natur amhendant neu estynedig. Fel arfer, cynhelir chwiliad yn y mynegai dros gyfnod o dim mwy na 5 mlynedd, dim ond pan fydd manylion cywir wedi'u rhoi. Os oes angen chwiliad ehangach, bydd angen i'r ymgeisydd neu rywun ar ei ran/rhan wneud Ymchwiliad Cyffredinol yn y mynegai.

Drwy drefnu gyda'r Cofrestrydd Arolygol, a thalu'r ffi briodol, gallwch gael mynediad i fynegai'r genedigaethau, priodasau a marwolaethau (nid i'r cofrestri eu hunain) am hyd at chwe awr.

Gellir cael tystysgrif o unrhyw gofnod a nodwyd drwy lenwi ffurflen gais a thalu'r ffi briodol.

I lawr lwytho ffurflen gais am Dystysgrif Genedigaeth, Marwolaeth neu Briodas, cliciwch ar yr atodiadau isod.

Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Gogledd Cymru

Er bod y Swyddfa Gofrestru leol yn gallu delio gyda ymholiadau am dystysgrifau geni, priodas a marwolaeth, mae posib i chi gael golwg ar fynegion a chyfeirnodau drwy edrych ar amryw o wefannau. Lanswyd gwefan GPM Gogledd Cymru yn Awst 2003 ac mae'n cynnwys - ond nid eto yn gyflawn - mynegion genedigaethau, priodas a marwolaeth o 1837 i 1950 i ardal Gogledd Cymru. Gellir defnyddio'r wefan i ddod o hyd i hynafiaid a chael cyfeirnodau i'w defnyddio gan y Swyddfa Gofrestru i ddarparu copïau o dystysgrifau genedigaeth, priodas neu farwolaeth fel bo'r angen.

Cais am Dystysgrif Geni

Cais am Dysysgrif Marwolaeth

Cais am Dystysgrif Priodas

end content