Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adolygiad Gostyngiad Person Sengl


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal adolygiad o drigolion sy’n derbyn Gostyngiad Person Sengl o 25% ar eu treth cyngor. Gellir hawlio’r gostyngiad os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn annedd neu eiddo ac os yw’r unigolyn hwnnw’n atebol i dalu treth y cyngor.   

Er ein bod yn ymwybodol fod y mwyafrif o’n trigolion yn hawlio’r gostyngiad yn briodol, yn anffodus, mae nifer fechan o bobl yn ceisio twyllo’r system.

Os nad ydych yn ymateb i’n llythyr, byddwn yn dod â’ch Gostyngiad Person Sengl i ben ac mae’n bosibl y byddwn yn ymgymryd ag ymchwiliadau pellach.

Rydym yn ymrwymo i ddiogelu pwrs y wlad ac adnabod twyll. Rydym yn cymryd Twyll Treth y Cyngor o ddifrif, ac rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i gadarnhau hawliadau i ostyngiadau. Hoffem ddiolch i’n trigolion am eu cydweithrediad parhaus drwy gydol yr ymarfer hwn.

 

Hysbysiad Preifatrwydd Treth y Cyngor

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content