Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cŵn Rheoli eich ci mewn mannau cyhoeddus

Rheoli eich ci mewn mannau cyhoeddus


Summary (optional)
start content

Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC)

Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC), a elwid gynt yn Orchmynion Rheoli Cŵn, o gymorth i fynd i’r afael â pherchnogaeth cŵn anghyfrifol.

Ein Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC)

Ardaloedd â Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC)

Yn cynnwys:

  • Pob Lle Chwarae Plant Wedi’i Amgylchynu â ffens
  • Pob Ardal Chwaraeon Amlddefnydd
  • Pob Cwrt Tennis
  • Pob Parc Sglefrio
  • Pob Lawnt Fowlio
  • Pob Maes Hamdden sy’n Gysylltiedig â Sefydliadau Addysgol
  • Ardal Chwarae Pob Cae Chwarae wedi’i Farcio

Mewn ardaloedd cyhoeddus gyda GGMC efallai y bydd yn rhaid i chi:

  • gadw eich ci ar dennyn
  • rhoi eich ci ar dennyn os bydd swyddog heddlu, swyddog cefnogi cymuned yr heddlu neu rywun o’r cyngor yn dweud wrthych am wneud hynny
  • stopio eich ci rhag mynd i rai llefydd penodol, fel rhan o barc neu ddarn o draeth
  • clirio ar ôl eich ci
  • cario rhaw faw a bagiau baw cŵn

Cosbau

Os ydych yn anwybyddu GGMC gellir eich dirwyo:

  • £100 yn y fan a’r lle (Hysbysiad Cosb Benodedig)
  • Hyd at £1,000 os bydd yr achos yn mynd i’r llys

Dod o hyd i ardaloedd rheoli cŵn yn eich ardal chi

end content