Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cŵn Perchnogaeth cŵn cyfrifol

Perchnogaeth cŵn cyfrifol


Summary (optional)
start content

Gall cŵn ddod a llawer o hapusrwydd a mwynhad i’n bywydau ond mae bod yn berchen ar gi yn dod â chyfrifoldebau penodol.

Fel perchennog ci gyfrifol:

  • gofalwch bod eich ci wedi’i ficrosglodynnu a bod eich manylion ar ei goler fel y gellir eich haduno cyn gynted â phosibl os yw’n mynd ar goll.
  • cadwch frechiadau a thriniaeth llyngyr eich ci’n gyfredol.
  • peidiwch â gadael i’ch ci grwydro.

Y Cod Cerdded Cŵn

Er mwyn mynd â’ch ci am dro mewn modd diogel a hapus, dilynwch y Cod Cerdded Cŵn a ddyfeisiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’u partneriaid:

  • cadwch eich ci dan reolaeth ac o fewn golwg: cadwch o’n ddigon agos i chi allu galw arno i ddod yn ôl atoch.
  • peidiwch â gadael i’ch ci redeg yn ddi-wahoddiad at geffylau a marchogion, beicwyr na phobl eraill.
  • gofalwch am natur: peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch a pheidiwch byth â gadael i’ch ci boeni na rhedeg ar ôl bywyd gwyllt.
  • cadwch eich ci ar dennyn os oes da byw o gwmpas, wrth ymyl clogwyni neu os oes arwyddion yn gofyn i chi wneud hynny.
  • cadwch eich ci dan reolaeth agos ar lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad, peidiwch â gadael iddo grwydro. Mae’n drosedd difrifol gadael i gŵn grwydro neu boeni da byw a gall tirfeddianwyr gymryd camau uniongyrchol.
  • cliriwch faw eich ci - rhowch o mewn bag ac yna yn y bin lle bynnag yr ydych chi a pheidiwch byth a gadael bagiau llawn baw o gwmpas y lle. Gallwch ddefnyddio unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu eich bin du eich hun.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content