Mae'r angen am drwydded yn dibynnu ar yr hyn a drefnir, nid pwy sy’n trefnu’r perfformiad neu’r gweithgaredd. Mae’r canllawiau sydd ynghlwm yn egluro pa reolau sy’n berthnasol i berfformiadau a phryd i wneud cais am drwydded.
Y prif ffactorau yw;
- p’un a gaiff taliadau eu gwneud (gan y gynulleidfa) neu eu derbyn (gan y plentyn);
- lleoliad y perfformiad;
- a p’un a yw’n cael ei ffilmio neu ei recordio ar gyfer y teledu, radio, y rhyngrwyd neu ffilm
Mae’r rhain yn cynnwys:
- unrhyw berfformiad lle codir tâl mynediad neu dâl am unrhyw reswm arall;
- unrhyw berfformiad ar safleoedd â thrwydded i werthu alcohol (hyd yn oed os bydd y bar ar gau yn ystod y perfformiad);
- unrhyw berfformiad a gaiff ei ddarlledu’n fyw (gan gynnwys ar y teledu, ar y radio a thrwy ffrydio ar-lein);
- unrhyw berfformiad a gaiff ei recordio i’w ddefnyddio mewn darllediad neu ffilm i’w wylio gan y cyhoedd (gan gynnwys recordiad sain neu glywedol ar wefan neu berfformiad a gaiff ei recordio ar gyfer y sinema neu ran o ffilm);
- unrhyw weithgaredd lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu waith modelu lle gwneir taliad am eu cyfranogiad, gan eithrio treuliau (pwy bynnag sy’n derbyn y taliad).
Mae rhai perfformiadau wedi’u heithrio o’r angen i gael trwydded.
Mae rhagor o wybodaeth am yr angen am drwydded i'w weld yn y siart llif. Fodd bynnag, dylech geisio cyngor gan eich Awdurdod Lleol os nad ydych chi’n siŵr.
Byddwn ond yn cyflwyno trwydded os byddwn yn fodlon bod trefniadau digonol wedi’u gwneud i oruchwylio a diogelu’r plentyn, a sicrhau cyn lleied â phosibl o amhariad i addysg y plentyn.
Dylid derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith i’r digwyddiad. Fodd bynnag, cynghorwn eich bod yn rhoi gymaint o rybudd â phosibl er mwyn osgoi siom, yn arbennig ar gyfer digwyddiadau mawr, gan fod gennym ddyddiad cau gwahanol ar gyfer derbyn y wybodaeth.
Cysylltu â ni:
E-bost: ESWS@conwy.gov.uk
Rhif ffôn: 01492 575031