Yn y cyfarfod ar 18eg o Chwefror 2025, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cynnig i uno Ysgol Y Foryd ac Ysgol Maes Owen yn mynd yn ei flaen i’r cam Hysbysiad Statudol.
Mae crynodeb o’r Hysbysiad Statudol ar gael isod ac mae’r hysbysiad llawn ynghlwm.
P’un a oes gwrthwynebiadau’n dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ - Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 41 a 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ymgynghori a’r cyfryw bersonau sy’n ofynnol, yn cynnig yr isod:
1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer plant o 3 – 11, i’w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd Ysgol Y Foryd ac Ysgol Maes Owen.
O ganlyniad i’r cynigion a amlinellir uchod:
2. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL MAES OWEN, MORFA AVENUE, FORYD, TOWYN, RHYL, LL18 5LE. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31ain Awst 2026.
3. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL BABANOD Y FORYD, MORFA AVENUE, FORYD, TOWYN, RHYL, LL18 5LE. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31ain Awst 2026.
Dyddiad: 28/04/2025
Hanes yr ymgynghoriad
content
Yn y cyfarfod ar 8 Hydref 2024, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i uno Ysgol y Foryd ac Ysgol Maes Owen.
Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 21 Hydref 2024 tan 2 Rhagfyr 2024.
Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu i fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.
Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.
Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau statudol mae’n rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o fewn y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.
Boed gwrthwynebiadau yn dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Disgwylir i Gabinet Conwy benderfynu ar y cyhoeddiad hwn ym mis Ionawr 2025.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 2 Rhagfyr 2024
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet ei ystyried yn ystod Tymor Ysgol yr Hydref.
Dogfennau