Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sefydliad Bridio Cŵn


Summary (optional)
start content

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth i aelodau'r cyhoedd am sefydliadau bridio cŵn yn Sir Conwy.

Ar gyfer busnesau sydd angen cyngor ar broses y drwydded fridio cŵn neu i wneud cais am drwydded, ewch i'n tudalen fusnes


A oes angen trwydded ar gyfer pob bridiwr?

Na. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn esbonio pryd mae angen trwydded ar gyfer gweithgaredd bridio cŵn. Mae hyn yn cynnwys person sy'n cadw 3  neu fwy ast fridio ac yn bridio 3 torllwyth neu fwy y flwyddyn, yn hysbysebu 3 torllwyth neu fwy y flwyddyn, yn cyflenwi cŵn bach sy'n cael eu geni o 3 torllwyth neu fwy neu'n hysbysebu busnes o fridio neu werthu cŵn bach.

Os nad yw bridiwr yn cwrdd â'r meini prawf hyn, nid oes angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol i weithredu.

Pa safonau mae bridwyr trwyddedig angen ei gyfarfod?

Mae'n ofynnol i bob bridiwr trwyddedig gyfarfod gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a'n hamodau trwydded ar gyfer sefydliadau bridio cŵn, cyn cael trwydded.

Rhestr o fridwyr trwyddedig

Gellir gweld rhestr o fridwyr trwyddedig ar cofrestr gyhoeddus.


Gwneud cwyn

Os ydych chi'n poeni am yr arferion neu'r amodau mewn safle bridiwr cŵn trwyddedig, neu os oes gennych wybodaeth i awgrymu bod bridiwr yn gweithredu heb drwydded (ac maent yn cwrdd â'r meini prawf uchod), gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio licensing@conwy.gov.uk neu drwy ffonio 01492 575222.

Ni allwn ymchwilio i bryderon lles anifeiliaid mewn safle bridiwr cŵn sydd ddim angen trwydded. Dylech roi wybod am hyn i linell creulondeb 24 awr yr RSPCA

I gael cyngor i ddefnyddwyr (e.e. masnachu annheg), gallwch ymweld â'n tudalen Safonau Masnach

Cyngor ar brynu ci / ci bach

Mae DEFRA wedi cynhyrchu canllaw sy'n manylu ar yr ystyriaethau ar brynu anifail anwes newydd a chanllaw cam wrth gam ar brynu ci.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan yr RSPCA ac Dogs Trust.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content