Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Iechyd a Diogelwch Asbestos yn y Cartref

Asbestos yn y Cartref


Summary (optional)
Gall asbestos fod yn rhan o unrhyw adeilad masnachol neu ddomestig a adeiladwyd neu a adnewyddwyd cyn y flwyddyn 2000. Gellir gweld Asbestos o hyd yn unrhyw un o'r canlynol:
start content
  • cynhyrchion sment asbestos (pibellau, ffliwiau, toeau ac ati)
  • deunydd lapio (ar bibelli a boeleri ac ati)
  • tanciau dŵr a sestonau toiled
  • bwrdd inswleiddio asbestos (AIB - sy'n debyg iawn i blastrfwrdd nodweddiadol)
  • asbestos rhydd mewn ceudodau nenfwd a wal
  • haenau wedi’u chwistrellu ar nenfydau, waliau a thrawstiau / colofnau
  • cotiadau addurniadol gweadog (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel Artex)
  • teils llawr
  • tecstilau a defnyddiau cyfansawdd

Rwy'n credu bod gen i asbestos yn fy nghartref, beth ddylwn i ei wneud?

Peidiwch â cheisio trwsio neu gael gwared ar unrhyw ddeunyddiau asbestos eich hun os nad ydych wedi cael unrhyw hyfforddiant ar gyfer gwaith asbestos heb ei drwyddedu. Yn lle hynny, dylech geisio cyngor contractwr asbestos arbenigol.

Os ydych yn sicr (neu yn amau’n gryf) bod eich cartref yn cynnwys deunyddiau asbestos, yna mae'n aml yn well eu gadael lle maen nhw - yn enwedig os ydynt mewn cyflwr da ac yn annhebygol o gael eu difrodi. Dylech wirio cyflwr y deunyddiau o bryd i'w gilydd i wneud yn siŵr nad ydynt wedi eu difrodi neu wedi dechrau dirywio.

Gall deunyddiau sy'n cynnwys asbestos sydd wedi’u difrodi ychydig weithiau gael eu hatgyweirio trwy eu selio neu eu hamgáu. Fodd bynnag, dylech ddim ond geisio gwneud hyn os ydych wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol. Dylid cael gwared ag unrhyw ddeunydd asbestos wedi’i ddifrodi'n ddrwg sy'n debygol o gael ei niweidio ymhellach os na ellir ei ddiogelu. Mae rhai deunyddiau (cotiadau asbestos wedi’u chwistrellu, deunydd lapio / inswleiddio asbestos neu fwrdd inswleiddio asbestos) na ddylid eu symud dim ond gan gontractwr wedi’i drwyddedu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw welliannau i'r cartref, atgyweirio neu gynnal a chadw - ac yn bwriadu dod ag unrhyw adeiladwyr ychwanegol, gweithwyr cynnal a chadw neu gontractwyr i mewn - dylech eu hysbysu am unrhyw ddeunyddiau asbestos yn eich cartref cyn iddynt ddechrau gweithio. Bydd hyn yn helpu i leihau'r risgiau o unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys asbestos  yn cael eu haflonyddu.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn annog yn gryf y dylid defnyddio gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi i drwsio neu gael gwared ar ddeunydd sy’n cynnwys asbestos. Os byddwch yn dewis gwneud gwaith trwsio eich hun neu gael gwared ar ddeunyddiau asbestos wedi’u difrodi eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo cyfarpar diogelu cywir a dilyn dulliau gweithio diogel. I gael cyngor ar wneud hyn, ewch i: Taflenni tasgau hanfodion Asbestos.

Sut ydw i'n cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos?

Byddwch yn ymwybodol bod angen cael gwared yn gyfreithlon ar ddefnydd sy’n cynnwys asbestos fel gwastraff peryglus. Ni ddylai hyn gael ei gymysgu gyda gwastraff arferol y cartref.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyfleusterau arbennig yn y canolfannau canlynol lle gallwch eu defnyddio i gael gwared ohono:

 

Canolfan Ailgylchu Mochdre, Ffordd Bron-y-Nant, Mochdre, Bae Colwyn, LL28 4YL
Canolfan Ailgylchu Abergele, Hen Safle Gofer, Ffordd Rhuddlan, Llansan Siôr, Abergele, LL22 9SE

Rhaid i chi ffonio'r safle o flaen llaw er mwyn sicrhau bod rhywun ar gael i dderbyn y deunydd 01492 575337.

Os ydych yn dymuno mynd ag asbestos i'r Ganolfan Ailgylchu, rhaid iddo fod wedi’i fagio ddwywaith mewn bagiau gwaith trwm, megis bagiau adeiladwyr, ac wedi’u selio’n llawn heb unrhyw fylchau.  Bydd unrhyw un sy'n dod ag asbestos nad yw mewn bag yn cael ei wrthod rhag cael mynediad i'r safle.

Dylai deiliaid tai sydd angen cael gwared ar ddalennau / meintiau mwy o asbestos gysylltu â chontractwr arbenigol.

end content