Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cinmel: Cynefin twyni a bywyd gwyllt


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod Grid: SH 987806.

Bywyd Gwyllt Twyni Cinmel

Beth yw twyni tywod a sut maent yn ffurfio?

Mae twyni tywod yn ffurfio ar ymyl arfordir lle mae tywod yn cael ei symud yn aml gan y gwynt a’r môr. Mewn gwirionedd, pentyrrau o dywod ydyn nhw, sy’n cael eu cadw yn eu lle gan blanhigion arbenigol. Mae symudiad y tywod yn agwedd hanfodol o systemau twyni tywod – mae stormydd gaeafol yn erydu twyni yn rheolaidd, felly mae angen mwy o dywod ar eu pennau drwy gydol y flwyddyn.

Dim ond oherwydd y planhigion sy’n tyfu yno y gall twyni dyfu. Mae’r planhigion hyn wedi eu haddasu i ddal y tywod a chreu cysgod er mwyn i fwy o dywod bentyrru. Mae’r proses hon yn rhoi cychwyn i rywbeth o’r enw olyniaeth lystyfol. Mae’r planhigyn cyntaf, neu’r ‘cytrefwr’, yn tyfu, gan wneud lle i blanhigion ffurfio twyni gwell i greu cysgod a darparu maetholion.  Wrth i un neu ddau o blanhigion gychwyn tyfu yn y rhan newydd ei chreu hon o’r traeth, caiff mwy a mwy o dywod ei ddal. Mae hyn yn creu pentwr mwy sydd yn cael ei sefydlogi gan wreiddiau’r planhigion, gan ddod yn y pen draw yn dwyn tywod.

Mae systemau twyni tywod yn arbennig gan fod twyni newydd yn cael eu ffurfio drwy’r amser. Mae hyn yn golygu y gallwch weld amrywiol gamau’r broses hon (olyniaeth lystyfol) a dysgu sut mae ecosystemau yn cael eu ffurfio.

Bywyd gwyllt y Twyni

Am fywyd gwyllt cyffredinol twyni edrychwch ar ein canllaw i chwilwyr.

Planhigion:

Er bod twyni yn enwog am y moresg sy’n tyfu arnynt (sy’n eithaf diflas yr olwg ac yn bigog), mae Cinmel yn gartref i fwy na 42 rhywogaeth o flodau twyni hardd gan gynnwys y gingroen cochlas, ffenigl arfor, a hegydd arfor.

Gloÿnnod  Byw:

Mae’r blodau gwyllt yma yn atynnu gloÿnnod byw sy’n bwyta neithdar sydd yn eu tro yn peillio’r blodau fel y gallant wasgaru ac atgynhyrchu. Mae gloÿnnod byw gwanwynol y gallwch eu gweld yng Nghinmel yn cynnwys yr iâr wen fawr, yr iâr wen fach, gwyn gwythïen werdd, glesyn cyffredin, glesyn y ddôl, gweirlöyn y perthi a’r fantell goch.   Beth am edrych ar ein canllaw i wylwyr gloÿnnod byw.

Ymlusgiaid:

Mae twyni yn gynefin gwych i rywogaethau ymlusgiaid y DU fel y wiber a madfall y tywod. Mae’r anifeiliaid hyn yn byw o dan y ddaear mewn tyllau sy’n hawdd eu palu i’r tywod meddal. Maent hefyd yn ectothermaid ac yn defnyddio’r tywod poeth i gynhesu yn yr haf. Nid oes unrhyw wiberod wedi eu gweld yng Nghinmel, ond mae’r cynefin yn ddelfrydol iddynt. Rydym wedi gweld madfallod y tywod, sydd yn hollol ddiniwed. Peidiwch â’u haflonyddu os gwelwch yn dda. Maent yn gostwng eu cynffonau fel amddiffyniad. Mae eu cynffonau’n dal i ysgwyd pan fyddant wedi dod oddi wrth weddill eu corf!

Adar:

Mae’r twyni tywod yn lle delfrydol i weld adar arfordirol fel yr wylan lwyd a’r crëyr ac adar hirgoes fel piod y môr. Rhwng Mai ac Awst gellir gweld yr ehedydd yma, aderyn prin iawn sydd yn gostwng mewn niferoedd. Gan ei fod yn nythu ar y ddaear mae’n ddiamddiffyn a gall cŵn a phobl aflonyddu arno’n hawdd, felly byddwch yn ofalus wrth gerdded llwybr y twyni! Gallwch ddarganfod mwy am yr ehedydd ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.  

Bywyd Gwyllt y Traeth

I ddysgu mwy am fywyd gwyllt cyffredinol y traeth edrychwch ar ein canllaw i wylwyr.

Ar hyd y traeth ac wedi eu cuddio yn y tywod mae tiwblyngyr, môr-gyllyll a chocos.   Mae’r anifeiliaid hyn i gyd yn hidlwyr bwyd, sy’n golygu eu bod yn hidlo plancton a gweddillion o’r môr fel hidlydd drwy’r dŵr er mwyn cael maetholion. Mae traethau tywodlyd yn le cuddio gwych – yn aml maent yn byw o dan yr wyneb ac yn gwneud tiwb bach neu dwll uwchben y tywod er mwyn cael gafael ar ddŵr a bwyd. Mae’n bosib hefyd y gallech chi weld casys wyau cregyn moch a siarcod (pyrsiau’r môr-forynion) sy’n cyrraedd y lan ar ôl i’r rhai bach ddeor ohonynt.

Bydd pobl sy’n caru mamaliaid morol ac sy’n amyneddgar yn gallu gweld morloi llwyd, dolffiniaid trwynbwl a llamidyddion o’rlan, felly dewch a’ch camera a’ch ysbienddrych. Mae’r safle hefyd yn lle gwych i sylwi ar adar morol fel môr-wenoliaid cyffredin, piod môr, a gwylogod yn bwydo allan ar y môr, ac os byddwch chi’n lwcus mae’n bosib y gwelwch yr ehedydd prin yn cuddio yng ngwair y twyni.

Am fwy o wybodaeth am y bywyd gwyllt yn nhwyni Cinmel, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

end content