Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus


Summary (optional)
 Gwybodaeth am 1700km o hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys llwybrau sydd ar gau
start content
Os oes gennych chi unrhyw bryderon mewn perthynas â chamddefnyddio hawl dramwy gyhoeddus ar eich tir neu ger eich eiddo, cysylltwch â erf@conwy.gov.uk

Rydym ni’n gyfrifol am tua 1700km o hawliau tramwy cyhoeddus

  • Llwybrau troed - cerddwyr yn unig
  • Llwybrau ceffylau – ceffylau, beics a cherddwyr
  • Cilffordd Gyfyngedig – cerbydau nas gyrrir yn fecanyddol fel ceffyl a throl, ceffylau, beics a cherddwyr
  • Cilffordd – cerbydau, ceffylau, beics a cherddwyr

Ystyrir cŵn a chadeiriau gwthio yn ychwanegiadau arferol ar hawl dramwy gyhoeddus. Rhaid cadw cŵn ar dennyn neu o dan reolaeth dynn ac ni ddylid gadael iddyn nhw grwydro oddi ar y llwybrau.

Mae'r sir yn dod o dan 4 map Explorer yr Arolwg Ordnans sy'n dangos lle mae'r hawliau tramwy

  • OL17 Yr Wyddfa/Dyffryn Conwy
  • OL18 Harlech/Porthmadog a’r Bala
  • 255 Llangollen a’r Berwyn
  • 264 Dyffryn Clwyd

Llwybrau sydd ar gau dros dro ar hyn o bryd

Os hoffech chi weld rhai o’r gorchmynion cyfreithiol yma, llenwch ein ffurflen ar-lein.

LleoliadRhif Hawl DramwyCyfeirnod GridRheswm dros gauDyddiadLlwybr Amgen
Betws y Coed 5 SH 7893 5965, SH 7945 5870 Perygl i’r cyhoedd yn sgil torri coed Tan 30 Mai 2024 Llwybr arall ar hyd llwybr troed 7 ar gyfeirnod grid SH 7945 5870
Betws y Coed FP 45 and FP 55 FP 45 SH 7927 5603 – SH 7924 5564FP 55 SH 7924 5591
7912 5584
Perygl i’r cyhoedd oherwydd pontydd y mae angen eu trwsio Tan 20 Mehefin 2024 Dim llwybr amgen
Bro Garmon/Betws y Coed FP 58 (Sapper’s Bridge) SH 7983 5648 – SH 7959 5652 Perygl i’r cyhoedd gan fod y bont angen ei atgyweirio Tan 4 Hydref 2024 Dim llwybr amgen
Capel Curig FP 26 SH 7562 5752
at Ty Hyll
SH7631 5777
Mur cynnal ansefydlog ar y briffordd Tan 29 Awst 2024 Llwybr amgen ar hyd llwybr y goedwig, o’r ffordd i’r gogledd o’r Towers
Deganwy/Conwy 73 SH 7862 7849 - SH 7862 7846 Perygl i’r cyhoedd Tan 15 Mehefin 2024 O’r llwybr beicio/llwybr yr arfordir dros y groesfan reilffordd ym Marina Cei Conwy i Station Road
Dolgarrog 04  SH 7691 6731 - SH 7655 6718 Llwybr igam-ogam o Tayler Avenue  Perygl i'r cyhoedd yn sgil coed a cherrig mawr ar lethrau serth Tan 6 Mehefin 2024  Dim llwybr amgen
Dolgarrog FP 10 SH 7663 6589 – SH 7671 6578 Perygl i’r cyhoedd oherwydd pont wedi’i difrodi Tan 28 Mehefin 2024 Dim llwybr amgen
Eglwysbach 34 SH 8119 6667 - SH 8152 6752 Perygl i’r cyhoedd Tan 4 Hydref 2024 Dim llwybr amgen
Llanfihangel FP 6 SH 9871 5097 – SH 9881 5128 Perygl i’r cyhoedd oherwydd bod angen atgyweirio’r bont Tan 13 Mehefin 2024 Llwybr amgen ar hyd llwybr troed 7 i Hafod Wen
Towyn a Bae Cinmel 8 SH 9691 7971 - SH 9691 7957 Perygl i'r cyhoedd Tan 5 Mai 2024 Sandbank Road a Gaingc Road
Trefriw FP 2, 3 SH 7671 6577 – SH 7686 6556 Perygl i’r cyhoedd oherwydd pont wedi’i difrodi Tan 28 Mehefin 2024 Dim llwybr amgen

 

Perchnogion a deiliaid tir

Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gynnal mynediad di-rwystr ar hyd hawliau tramwy.

Weithiau, gall hyn olygu cyflwyno rhybuddion i berchnogion neu ddeiliaid tir gael gwared ar rwystrau. Mae'n well gennym weithio mewn partneriaeth â pherchnogion a deiliaid tir i ddatrys y problemau hyn heb oedi.

Sut y gallwn ni helpu:

  • cynnig cyngor ar lwybr hawl dramwy
  • trefnu cyfarfodydd ar y safle i drafod unrhyw broblemau
  • darparu arwyddion a physt cyfeirio i gadw defnyddwyr ar y llwybr cywir
  • caniatáu a darparu camfeydd a gatiau ar hyd y llwybr, ar yr amod eich bod yn cytuno i’w cynnal a’u cadw at safon addas.

Cofrestr Datganiadau a Dogfennau Perchnogion Tir dan Adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980

Datganiad a Map Diffiniol 

Mae'r Datganiad a'r Map Diffiniol yn gofnodion cyfreithiol o’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Os hoffech chi gael gweld y rhain, cysylltwch â ni.

Dim ond drwy orchymyn cyfreithiol y gellir diwygio’r Datganiad a'r Map Diffiniol.

  • Mae Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus yn creu, dargyfeirio neu ddileu hawl dramwy gyhoeddus dan Ddeddf Priffyrdd 1980 neu Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Mae Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol yn diwygio'r Datganiad a'r Map drwy ychwanegu, dileu neu newid statws llwybrau ar sail tystiolaeth, dan Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981
  • Gall Gorchmynion Eraill gau neu ddargyfeirio llwybrau dros dro yn ystod gwaith adeiladu neu pan fo difrod ar lwybr yn achosi perygl i'r cyhoedd, dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

I wneud cais am unrhyw un o’r gorchmynion cyfreithiol hyn,  llenwch ein ffurflen ar-lein.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus: Gorchmynion Diweddar

end content